Tollau A470 yr ateb anghywir i broblem ddifrifol

Plaid yn cyhuddo Llafur o chwilio am “benawd” dros dollau ar yr A470

a470.jpg

Mae Llywodraeth Cymru dros yr haf wedi bod yn ymgynghori ar gynigion i godi tâl ar yrwyr i ddefnyddio'r A470 rhwng Glan-Bad a Phontypridd, fel rhan o gynlluniau i leihau llygredd trwy Barth Aer Glân. Gwnaethpwyd y mwyafrif o breswylwyr yn ymwybodol trwy lythyrau yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol gan rai preswylwyr a oedd wedi derbyn hysbysiad, tra nad oedd eraill a fyddai’n cael eu heffeithio wedi derbyn unrhyw wybodaeth ac felly yn methu ag ymateb i’r ymgynghoriad.

 

 

Wrth ymateb i’r newyddion bod y syniad o dollau i rai gyrwyr ar rannau o draffordd yr M4 a’r A470 wedi’i godi gan lywodraeth Cymru mewn ymgais i fynd i’r afael â llygredd aer, meddai Heledd Fychan AS Plaid Cymru dros Canol De Cymru,

 

"Yn hytrach na chynnig syniadau polisi arloesol fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r broblem sydd dirfawr angen ei thaclo, mae’r Llywodraeth yn hytrach wedi troi at benawdau newyddion.

"Mae'r argyfwng hinsawdd yn real. Mae llygredd aer yn real. Mae angen datrysiadau radical. Nid yw gosod tollau ar un darn o lon yn ddatrysiad radical. Y cyfan y bydd yn ei wneud yw gyrru pobl i osgoi'r taliadau drwy fynd trwy gymunedau cyfagos a thrwy hynny wthio llygredd i’r cymjunedau hynny gan waethygu llygredd aer a thagfeydd.

"Mae hefyd yn cosbi'r tlotaf sy'n ddibynnol ar geir i gyrraedd shifft gwaith yn hwyr yn y nos neu'n gynnar yn y bore gan nad yw'r trenau a'r bysiau yn rhedeg yr adeg honno o'r dydd. 

"Mae angen buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhai sy'n ddibynnol ar wasanaethau bws lleol ar hyn o bryd methu â chyrraedd apwyntiadau ysbyty, methu casglu eu plant o'r ysgol neu yn methu cyrraedd eu shifft gwaith mewn pryd. A dyna lle mae angen i'r buddsoddiad ddigwydd gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn hygyrch.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Heledd Fychan
    published this page in Newyddion 2021-09-03 21:21:16 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd