Hysbysebiad Berwi Dŵr - Dŵr Cymru

🚰 Diweddariad Dŵr Cymru ar yr Hysbysiad Berwi Dŵr 🚰
Dw i wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â Dŵr Cymru, sydd bellach wedi darparu rhagor o wybodaeth am y camau y mae’n eu cymryd mewn ymateb i’r hysbysiad berwi dŵr presennol sy’n effeithio ar gwsmeriaid.
Maent yn gweithio’n agos gyda awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau cymunedol i nodi a chefnogi cwsmeriaid agored i niwed — gan gynnwys y rheini nad ydynt efallai wedi’u cofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar hyn o bryd. Anogir preswylwyr hefyd i gysylltu os oes ganddynt bryder am gymydog, ffrind neu berthynas a allai fod angen cymorth ychwanegol, drwy ffonio llinell gymorth brys ar 0800 052 0130
📢 Mae amryw o ddulliau cyfathrebu yn cael eu defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid, gan gynnwys negeseuon testun, diweddariadau ar y wefan, cyfryngau cymdeithasol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a grwpiau cymunedol. Gan gydnabod nad yw pawb yn gallu cael eu cyrraedd yn ddigidol, mae Dŵr Cymru hefyd yn gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig a sefydliadau partner i rannu gwybodaeth mor eang â phosibl.
📝 Gall cwsmeriaid gofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar-lein:
neu dros y ffôn ar 0800 052 0145. Mae cymorth ychwanegol yn cael ei gydlynu gyda sefydliadau partner yn ystod y digwyddiad hwn.
📍 Mae lleoliadau gorsafoedd dŵr potel yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a bydd manylion yn cael eu cadarnhau cyn bo hir drwy sianeli swyddogol. Byddant yn blaenoriaethu dosbarthu dŵr poteli i gartrefi cwsmeriaid mwyaf bregys nad ydynt yn gallu teithio i bwyntiau casglu.
Os oes gennych bryderon am yr hysbysiad hwn neu am bobl agored i niwed rydych yn eu hadnabod ac sy’n cael mynediad at orsafoedd dŵr potel, cysylltwch â’m swyddfa ar [email protected] neu cysylltwch â Dŵr Cymru yn uniongyrchol.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Gruffudd
    published this page in Newyddion 2026-05-22 18:32:26 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd