
Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm Plaid Cymru gyda Lis Mclean a Sara Crowley, yn cynrychioli a chefnogi pobl Pontypridd, Cynon a Merthyr yn ein cymunedau lleolo a'r Senedd. Yma cewch ddysgu mwy am un ohonynt - Sara Crowley, ei chefndir a'r hyn yr hoffai gyflawni yn ei thymor cyntaf fel Aelod o'r Senedd.
Cafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, ac mae’n byw yno o hyd gyda’i theulu ac yn falch iawn o’i gwreiddiau. Wedi’i gwreiddio yn ei chymuned, mae’n deall realiti bywydau bob dydd pobl ar draws y cymoedd, yn ogystal â’u cryfderau.
Mae ei gyrfa wedi canolbwyntio ar sefyll ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hanwybyddu. Cymhwysodd Sara fel athrawes ysgol gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn gweithio i elusen atal trosedd mewn ysgolion uwchradd a charchardai, gan gefnogi pobl ar adegau heriol yn eu bywydau.
Cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth, treuliodd ddegawd yn y GIG, lle datblygodd SEREN Connect, rhaglen addysg genedlaethol a gyd-luniwyd gyda phobl ifanc i wella’r gefnogaeth i bobl ifanc sy’n byw gyda diabetes Math 1.
Mae byw gyda diabetes Math 1 o oedran ifanc wedi llunio ei gweithgarwch ac wedi rhoi iddi’r penderfyniad i wneud i systemau weithio’n well i bawb. Mae Sara yn credu y dylai gwleidyddiaeth fod yn dosturiol ac wedi’i gwreiddio ym mywydau bob dydd pobl. Mae’n angerddol dros godi llais y rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml, annog mwy o fenywod i ymgysylltu â gwleidyddiaeth, a herio’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl, gan sicrhau nad yw neb yn cael eu gadael ar ôl.
Beth wnaeth eich ysgogi i sefyll fel Aelod o’r Senedd?
“Cafodd fy nhaith i mewn i wleidyddiaeth ei siapio gan brofiad personol a chred gynyddol bod pobl fel fi angen bod mewn mannau lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Drwy fyw gyda diabetes Math 1, bron colli fy mywyd yn fy arddegau, ac wedyn colli fy ngolwg am gyfnod, gwelais y bylchau yn y systemau sydd i fod i’n cefnogi ni. Pan oedd angen help arnaf fwyaf, roedd hi’n rhy hawdd syrthio drwy’r bylchau. Dyna a sbardunodd fy actifiaeth. Trwy raglenni fel Equal Power, Equal Voice, cefais yr hyder i sefyll a gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl eraill yn cael eu clywed.
Pa faterion, yn lleol ac yn genedlaethol, sydd bwysicaf i chi?
“Dwi’n angerddol dros wella cefnogaeth i blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor. Yn rhy aml, nid yw gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd, ac mae teuluoedd yn cael eu gadael i lywio systemau cymhleth ar eu pennau eu hunain. Dwi’n poeni’n fawr am gryfhau’r GIG, sicrhau ymyrraeth gynnar, a chreu gwasanaethau cyhoeddus sy’n decach ac yn fwy tosturiol. Yn lleol, dwi am weld mwy o gyfleoedd i gymunedau’r cymoedd. Yn genedlaethol, dwi’n ymrwymedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.”
Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn eich tymor cyntaf fel AS?
“Yn fy nhymor cyntaf, dwi am fod yn lais cryf ac agos at bobl fy nghymuned, gan ddechrau gwneud newidiadau ymarferol sy’n gwella bywydau. Dwi am wthio am well gwasanaethau cydgysylltiedig i bobl ifanc sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, gan adeiladu ar fy mhrofiad yn y GIG. Dwi hefyd am helpu newid diwylliant gwleidyddiaeth, ei wneud yn fwy tosturiol ac yn fwy cynrychioliadol. Mae hynny’n cynnwys annog mwy o fenywod a lleisiau heb eu cynrychioli’n ddigonol i gymryd rhan. Yn y pen draw, dwi am i bobl deimlo eu bod yn cael eu clywed ac nad yw neb yn cael eu gadael ar ôl.”

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter