Lawnsiad Maniffesto Cymdeithas MND

Roedd yn bleser mynychu lansiad Maniffesto Cymdeithas MND i Gymru heddiw yng Nghaerdydd. 
Mae eu Maniffesto yn glir iawn yn yr hyn y mae'n ei ofyn gan Lywodraeth Cymru, y GIG a Llywodraeth Leol i'w wneud i sicrhau darpariaeth gwasanaeth deg ledled Cymru - gan gynnwys tai addasedig amserol a phriodol; cefnogaeth ariannol ddigonol i ofalwyr; a hyrwyddo ymchwil gydweithredol o ansawdd uchel.

Mae'n bwysig bod Llywodraeth nesaf Cymru yn gweithredu'n gywir fel nad yw cleifion a theuluoedd yn dioddef yr un rhwystredigaethau ac anghyfiawnderau ag y mae llawer wedi'u dioddef yn y gorffennol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Gruffudd
    published this page in Newyddion 2026-02-25 17:34:02 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd