Grym Chwaraeon

Cefais drafodaethysbrydoledig fel rhan o banel gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru ar lwyfan Cynhadledd Plaid Cymru'r wythnos diweddaf  ar fuddsoddiad mewn pêl droed a’r adnoddau sydd eu hangen nid yn unig er mwyn gwella mynediad i’r gamp onf hefyd y llesiant a’r dygnwch ddaw o hynny i’n cymunedau gan gynnwys gwell iechyd, addysg a thwf economaidd.
Gall chwaraeon fod yn drawsnewidiol ond mae angen buddsoddiad mewn adnoddau ymhob cymuned fel bod pawb o bob cefndir ac oedran yn cael mynediad i chwaraeon o’u dewis nhw a’r lles go iawn ddaw o hynny.

Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau chwaraeon wrth wthio strategaeth a buddsoddiad. Mae hyn yn wir wrth gynllunio rhagweithiol o ran gwaddol llwyddiant digwyddiadau mawr yn Nghymru a llwyddiant ein timau cenedlaethol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Gruffudd
    published this page in Newyddion 2026-03-06 14:51:07 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd