
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg heddiw wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 7 wythnos ar ddyfodol eu gwasanaethau Gofal Lliniarol Arbenigol (SPC) a gofal diwedd oes i oedolion.
Un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried yw cau’r ward wyth gwely SPC yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar, rhywbeth rwy’n gwybod sy’n peri pryder mawr i nifer o drigolion lleol.
Er mwyn sicrhau bod y sylwadau rwy’n eu cyflwyno yn adlewyrchu eich barn chi, rwy’n awyddus iawn i glywed eich ymateb i’r cynigion. Gallwch adael sylw isod neu e-bostio fi: [email protected]
Gallwch gael mynediad i’r cynigion yn llawn a’r Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen swyddogol yma: https://bipctm.gig.cymru/.../helpu-i-lunio-darpariaeth.../
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter