
Hwn oedd y pedwerydd digwyddiad mewn cyfres o gyfleoedd rhwydweithio yng Nghanol De Cymru a gynhaliwyd gan fy nhîm a minnau ynglŷn â’r argyfwngCostau Byw.
Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Neuadd Eglwys Sant Dyfrig, Trefforest ym mis Chwefror 2022. Clywodd y mynychwyr adroddiadau gan Fanciau Bwyd Pontypridd a Thaf Elái am effaith yr argyfwng Costau Byw ar eu gwaith i geisio sicrhau bod gan bawb fwyd a chartref cynnes a’u bod yn cael eu cyfeirio i wasanaethau eraill. Siaradodd Cynulliad Pobl Cymru yn y digwyddiad hefyd.
Yn nigwyddiad rhwydweithio Taf Elai ym Mhont-y-clun ym mis Gorffennaf 2022, rhoddodd yr elusen People & Work gipolwg ar sefydliadau yn y Rhondda a'r gwaith y maent yn ei wneud gwybodaeth a data yn hygyrch i bobl. Siaradodd banc bwyd Taf Elai am dlodi tanwydd a’u cynllun tocynnau tanwydd.
Yn nigwyddiad Strategaeth Bryncynon ym mis Hydref 2022, clywsom am waith Cyngor ar Bopeth ar draws y Rhanbarth a gwaith y Pantrioedd Bwyd a’r anghenion cynyddol y maent yn eu gweld yng Nghwm Cynon. Rhoddodd Climate Cymru gyflwyniad am eu gwaith a’u gweledigaeth. Mae Climate Cymru yn rhwydwaith gweithredol o bron i 300 o sefydliadau o bob sector a dros 13,000 o unigolion o bob rhan o Gymru, sy’n pryderu am newid hinsawdd a’r cyswllt rhwng hyn ar argyfwng costau byw.
Ym mhob digwyddiad, mae'r rhai a fynychodd wedi gallu cysylltu â sefydliadau eraill am yr argyfwng, rhannu syniadau ac archwilio sut y gallant gydweithio i gefnogi'r gymuned yn lleol.
Ffocws ein digwyddiad diweddaraf ym Mhontypridd ym mis Ionawr 2023 oedd materion rheoli arian a sut mae cynnydd mewn costau yn effeithio ar y defnyddo ynni.
Diolch i’r holl sefydliadau canlynol a fynychodd ac a rannodd eu profiadau:
Citizens Advice Rhondda Cynon Taf, Cwmpas, Penderyn Community Centre, The National Lottery Community fund, New Horizons, Interlink RCT, BCT Wales, Home4U, Coalfields Regeneration Trust, Community Foundation Wales, Age Cymru, Taf Ely Foodbank, local food pantries, GTWales, YRP Ynysybwl,
Darllenwch yr adroddiad o’r digwyddiad drwy glicio ar y llun isod:


Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter