Heddiw cynhaliais fy 9fed digwyddiad costau byw yng nghanolfan gelfyddydau Chapter. Diolch i’r holl sefydliadau lleol a gymerodd ran yn y digwyddiad a diolch yn fawr i’n siaradwyr Liz ac Imogen o Fanc Bwyd Caerdydd, Kervin o Bute Food Pantry ac Adam Johannes o Gynulliad Pobl Caerdydd.
Mae’n amlwg bod yr angen am gymorth yn tyfu bob blwyddyn. Mae’r cymorth mae sefydliadau lleol yn ei ddarparu i’r rheini yn ein cymuned yn amhrisiadwy ond mae’r gost gynyddol yn ergyd drom i fudiadau trydydd sector. Gyda’n gilydd, gallwn gefnogi ein cymunedau ac ymgyrchu dros y newidiadau ym mholisïau’r Llywodraeth sydd eu hangen.
Cysylltwch â ni os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod angen cefnogaeth
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter