Ar 27 Hydref, daeth sefydliadau o Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyd at ei gilydd mewn digwyddiad a drefnwyd gan Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn The Feelgood Factory yn Bryncynon Strategy, yn gyfle i sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio i gefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, ddod at ei gilydd a rhannu'r hyn y maent yn ei weld trwy eu gwaith. Roedd hefyd yn gyfle iddynt rannu syniadau ac arfer da, tra hefyd yn trafod pa gamau y gall Llywodraethau Cymru a’r DU eu cymryd i ddarparu mwy o gymorth.
Yn siarad ar ol y digwyddiad, dywedodd Heledd Fychan AS: “Mae pawb sy’n bresennol yn gweld cynnydd yn y galw, gyda mwy o bobl mewn argyfwng angen cymorth brys.
“Mae pobl yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i arian i allu bwyta a chynhesu eu cartrefi, a dywedodd sefydliadau eu bod yn gweld mwy a mwy o bobl yn cymryd mesurau enbyd fel benthyca arian gan fenthycwyr arian didrwydded.
“Mae’r argyfwng yn creu pobl digartref, ac yn cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl a lles pobol o bob oed.
“Gall Lywodraethau Cymru a’r DU, ac mae angen iddynt wneud mwy i sicrhau nad oes neb yn marw’r gaeaf hwn oherwydd na allant fforddio hawliau dynol sylfaenol fel bwyd, a chartref cynnes a diogel.”
Darllen y adroddiad yma
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter