Holiadur Llifogydd

Ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn dw i wedi bod yn ymgyrchu, ar y cyd gyda ddioddefwyr y llifogydd dros ymchwiliad annibynnol – rhywbeth sydd wedi derbyn cefnogaeth gan filoedd ar hyd a lled RhCT. Er pleidleisio DROS ymchwiliad yn Lloegr gwrthododd ein ASau ni yma yn RHCT gefnogi ymchwiliad i ni yng Nghymru, fel yn wir mae Llywodraeth Cymru.

Dyna pam dw i’n falch o weld, drwy’r cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru, fod Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad annibynnol i’r llifogydd. Rydym yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth a dim ond oherwydd pwysau cymunedol a’n dylanwad yn y Senedd yr ydym yn gwneud cynnydd ar y mater hwn. Mae’r adolygiad yn gam pwysig tuag at gyfiawnder i ddioddefwyr llifogydd ar draws RhCT.

Os ydych chi’n meddwl bod yna gwestiynau dal heb eu hateb, neu eich bod yn haeddu iawndal, dim ond trwy ymchwiliad annibynnol y down o hyd i'r gwirionedd unwaith ac am byth a sicrhau cyfiawnder i bawb. Os byddai'n well gennych wneud heb roi gwybodaeth bersonol, gallwch lenwi'r holiadur yma.

Cafodd eich tŷ/busnes chi lifogydd?

Os ddim ewch i'r ddau gwestiwn olaf

Dangos 1 ymateb

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd