Newyddion diweddaraf

Sara Crowley

Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm Plaid Cymru gyda Lis Mclean a Sara Crowley, yn cynrychioli a chefnogi pobl Pontypridd, Cynon a Merthyr yn ein cymunedau lleolo a'r Senedd.  Yma cewch ddysgu mwy am un ohonynt - Sara Crowley, ei chefndir a'r hyn yr hoffai gyflawni yn ei thymor cyntaf fel Aelod o'r Senedd. Cafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, ac mae’n byw yno o hyd gyda’i theulu ac yn falch iawn o’i gwreiddiau.  Wedi’i gwreiddio yn ei chymuned, mae’n deall realiti bywydau bob dydd pobl ar draws y cymoedd, yn ogystal â’u cryfderau. Mae ei gyrfa wedi canolbwyntio ar sefyll ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hanwybyddu.  Cymhwysodd Sara fel athrawes ysgol gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn gweithio i elusen atal trosedd mewn ysgolion uwchradd a charchardai, gan gefnogi pobl ar adegau heriol yn eu bywydau. Cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth, treuliodd ddegawd yn y GIG, lle datblygodd SEREN Connect, rhaglen addysg genedlaethol a gyd-luniwyd gyda phobl ifanc i wella’r gefnogaeth i bobl ifanc sy’n byw gyda diabetes Math 1. Mae byw gyda diabetes Math 1 o oedran ifanc wedi llunio ei gweithgarwch ac wedi rhoi iddi’r penderfyniad i wneud i systemau weithio’n well i bawb.  Mae Sara yn credu y dylai gwleidyddiaeth fod yn dosturiol ac wedi’i gwreiddio ym mywydau bob dydd pobl.  Mae’n angerddol dros godi llais y rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml, annog mwy o fenywod i ymgysylltu â gwleidyddiaeth, a herio’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl, gan sicrhau nad yw neb yn cael eu gadael ar ôl.  
Darllenwch fwy

Lis Mclean

Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm Plaid Cymru gyda Lis Mclean a Sara Crowley, yn cynrychioli a chefnogi pobl Pontypridd, Cynon a Merthyr yn ein cymunedau lleolo a'r Senedd.  Yma cewch ddysgu mwy am un ohonynt - LIs Mclean, ei chefndir a'r hyn yr hoffai gyflawni yn ei thymor cyntaf fel Aelod o'r Senedd. Mae Lisbeth McLean yn arweinydd cymunedol gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl Merthyr Tudful i hyrwyddo’r Gymraeg, datblygiad cymunedol, a grymuso lleol.  Fel Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful a Phrif weithredwraig Canolfan a Theatr Soar, mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw mewn creu cyfleoedd i bobl o bob oed ymgysylltu â’r iaith a’r diwylliant mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol. A hithau wedi astudio Economeg ym Mhrifysgolion Aberdeen ac Abertawe, aeth Lisbeth ymlaen i addysgu Economeg ac Astudiaethau Busnes. Mae ei chefndir mewn addysg wedi llywio ei gwaith yn y trydydd sector, gan ddod â dealltwriaeth strategol o sut i gefnogi unigolion a chymunedau i dyfu, ffynnu, a dod yn fwy hunangynhaliol. Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, mae gwaith Lisbeth yn canolbwyntio ar feithrin partneriaethau, cefnogi mentrau cymunedol gwreiddiol, a chryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth wedi gadael effaith barhaol ar Ferthyr a thu hwnt. Mae’n parhau i bledio’r achos mai cymunedau cynaliadwy yw’r rhai sy’n cael eu hadeiladu o’r gwaelod i fyny—drwy iaith, hunaniaeth, ac uchelgais gyffredin am ddyfodol gwell.  
Darllenwch fwy

Arolwg Iechyd Craig yr Hesg

Byddaf yn parhau i ymgyrchu i ddiogelu iechyd y cymunedau yr effeithir arnynt gan y Chwarel yn well ac mae gen i ddiddordeb mewn gwybod sut mae byw mewn cyffiniau yn effeithio arnoch chi a pha effaith sydd ganddo ar eich bywydau bob dydd fel y gallwn ddarparu rhagor o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru o effaith y chwarel ar iechyd y cyhoedd. Bydd unrhyw wybodaeth a rannwch yn cael ei chadw gan fy swyddfa a bydd yn sail i adroddiad cymunedol dienw. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol a bydd ar gael ar fy ngwefan. Gallwch gwblhau'r holiadur ar-lein drwy glicio yma: https://tinyurl.com/bdckr598 Gobeithio y byddwch yn fodlon ateb yr holiadur hwn gan y mwyaf o ymatebwyr sydd gennym, y mwyaf cynhwysfawr fydd y dystiolaeth.

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd