Ar Dachwedd y 15fed, cyhoeddodd cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf adroddiad ar y gwaith o adfer canol tref Pontypridd. Yn yr adroddiad mae’n dweud eu bod yn ystyried yr opsiynau datblygu ar gyfer hen safle’r neuadd bingo / Angharads a hefyd 96-99a a 100-102 Taff Street (hen safleoedd M&S a Dorothy Perkins/Burtons).
Mae’n amlwg i mi, wedi i mi fynd i sawl cyfarfod fel Aelod o’r Senedd ac fel cynghorydd, i drafod y datblygiadau, nad ydi barn y bobl sy’n byw, gweithio a mwynhau Pontypridd yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.
Er mwyn i fi allu eich cynrychioli chi yn well, hoffwn glywed barn y trigolion lleol, busnesau a defnyddwyr y dref i weld be hoffech chi weld yn digwydd gyda’r safleoedd yma. Baswn i’n diolchgar felly petaech chi’n fodlon llenwi’r arolwg byr yma.
Dangos 1 ymateb