Ym mis Awst 2022, daeth deddf i rym yn yr Alban yn ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol i awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chyrff gwasanaethau cyhoeddus penodedig ddarparu cynnyrch mislif am ddim a sicrhau eu bod ar gael yn hawdd. Dyma’r wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno deddf o’r fath, gyda’r nod o fynd i’r afael â thlodi mislif, hybu urddas mislif a chwalu’r stigma.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi mislif yng Nghymru, ac yn buddsoddi arian i ehangu’r ddarpariaeth o gynnyrch mislif am ddim yn ogystal â hyrwyddo mwy o ddefnydd o gynnyrch sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol. Mae hyn yn arwain at anghysondeb o ran mynediad a’r math o gynnyrch sydd ar gael, yn dibynnu ar ble mae pobl yn byw yng Nghymru.
Rydym am weld cyfraith yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i sicrhau’r hawl yma, a diogelu mynediad am ddim ar gyfer y dyfodol.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter