Adroddiad Senedd 2/7/21

Newyddion mawr wythnos yma yw fy mod wedi cael yr allweddi ar gyfer fy swyddfa ranbarthol o'r diwedd a dechreuais symud i mewn heddiw (dydd Gwener 2 Gorffennaf). Mae'r swyddfa yw 2 Stryd Fawr, Pontypridd ac rydym yn gobeithio cwblhau'r holl waith arni dros yr haf fel y gallwn agor i'r cyhoedd ym mis Medi, yn dibynnu ar reoliadau Covid wrth gwrs.

Pentre

Materion eraill rwyf wedi bod yn gweithio arnyn nhw yr wythnos hon:

Adroddiad Llifogydd Pentre

Bydd llawer ohonoch wedi gweld bod Cyngor RhCT o'r diwedd wedi cyhoeddi adroddiad Adran 19 ar lifogydd 2020 yn Pentre Dyma'r adroddiad Adran 19 cyntaf o 19 adroddiad i gyd, sy'n ymdrin â gwahanol ardaloedd. Gellir darllen yr adroddiad yma: https: RCT25Pentre–FloodInvestigationReport.pdf (rctcbc.gov.uk)

Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod y cyntaf o’r adroddiadau wedi’u cyhoeddi o’r diwedd, rwy’n bryderus gweld y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn anghytuno ynghylch y canfyddiadau. Mae hyn unwaith eto wedi atgyfnerthu i mi pam bod angen ymchwiliad annibynnol arnom i lifogydd 2020 fel y gellir edrych ar yr holl adroddiadau gyda'i gilydd. Mae trigolion yn haeddu'r atebion sydd eu hangen arnynt i deimlo'n ddiogel rhag llifogydd yn y dyfodol ac ni ddylent orfod dioddef dau gorff gwahanol sydd â chyfrifoldeb dros reoli llifogydd yn anghytuno'n gyhoeddus yn hytrach na cydweithio.

 

Gwasanaethau Post yn Gelli a Ton Pentre

Yn gynharach yr wythnos hon, cysylltodd y Cynghorydd Larraine Jones â mi ar ôl cael gwybod nad oedd nifer o bobl wedi derbyn post ers dros wythnos. Mae hi wedi derbyn nifer o gwynion am y gwasanaeth post dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gyda pobl yn aros wythnosau am bost pwysig ac yn colli apwyntiadau meddygol gan gynnwys brechlyn Covid oherwydd bod y llythyrau yn hwyr yn eu cyrraedd. Mynegodd Dr lleol bryder ynghylch hyn hefyd. Rwyf wedi ysgrifennu at y Post Brenhinol, yn gofyn iddynt fynd i'r afael â hyn ar frys. Yn ddiddorol, derbyniodd pobl bost am y tro cyntaf yr wythnos hon heddiw, er fy mod yn dal i aros am ymateb swyddogol i'm e-bost. Byddaf yn parhau i weithio gyda Larraine i sicrhau bod hyn yn cael ei ddatrys.

 

Canolfan Iâ Cymru

Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi i ofyn pam bod Canolfan Iâ Cymru yn parhau ar gau er gwaetha'r ffaith bod yr holl rinciau iâ eraill wedi ailagor ledled y DU. Canolfan Iâ Cymru yw'r rinc sglefrio iâ mwyaf modern yn y DU ac mae'n ymddangos yn od y gall sglefrwyr deithio i Loegr i ddefnyddio rinciau eraill sy'n llai modern, ond eto ni allant ddefnyddio'r un yma yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod y sefyllfa hon yn dal i gael ei hadolygu, a byddaf yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei chefnogaeth i ailagor y ganolfan cyn gynted â phosibl.

 

Gwasanaethau Bws

Mae nifer o bobl yn dal i gysylltu, i gwyno am wasanaethau bysiau lleol. O ystyried maint y broblem, mae fy nhîm wedi creu arolwg a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gwblhau a rhannu eich barn gyda mi er mwyn i mi allu parhau i ymgyrchu dros newidiadau a gwelliannau. Gellir gweld yr arolwg yma: Arolwg Gwasanaethau Bysiau - Heledd Fychan CYM

 

Gwaith Arall

  • Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, gan ddadlau dros fwy o gefnogaeth i S4C
  • Fe wnes i gyfarfod gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gan amlinellu sut mae diwylliant a chwaraeon yn rhan annatod o'n hadferiad o Covis. Fe wnaethomi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i sicrhau mynediad cyfartal i bawb i ddiwylliant a chwaraeon.
  • Cyfarfûm â Marie Curie, Hospices UK, Together for Short Lives, Tŷ Hafan a Ty Gobaith i drafod y sector gofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru.
  • Mynychais ddigwyddiad IWA - Reimaginaing Public Service Media in Wales.
  • Cymerais ran yn Hawl i Holi ar Radio Cymru, gan drafod llu o faterion amrywiol. Gallwch wrando yma: BBC Radio Cymru - Hawl i Holi, 01/07/2021
  • Fe wnes i godi gyda'r Llywydd sut y bydd y Senedd yn parhau i ymgysylltu â phobl ifanc, er mwyn sicrhau y gall mwy ohonynt helpu i lunio dyfodol ein gwaith.
  • Gwaith achos - mae fy nhîm yn parhau i gefnogi nifer o bobl ar draws Canol De Cymru ar nifer o wahanol faterion. Mae croeso ichi ddod i gysylltiad - [email protected]

 

 

 

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Heledd Fychan
    published this page in Cylchlythyr 2021-07-02 17:56:31 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd