Yr wythnos yma, rwyf i a’r tim wedi cael cwmni dwy o ddisgyblion Ysgol Plas Mawr ar brofiad gwaith gyda ni. Mae Hana a Seren wedi bod yn helpu'r tîm gydag amrywiaeth o tasgau amrywiol ac yn ymuno â mi ar ymweliadau i gwrdd ag etholwyr. Diolch i'r ddwy ohonoch am eich gwaith caled. Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r profiad gymaint ag y gwnaethom ni!
Pam dod am brofiad gwaith?
Hana: “Roeddwn yn awyddus i ddod at Heledd am brofiad gwaith gan fod gen i ddiddordeb yn y maes gwleidyddol ac eisiau cael profiad o weld pa fath o beth sy’n mynd ymlaen o ddydd i ddydd fel Aelod Seneddol. Rwyf wir wedi gwerthfawrogi’r amserlen o weithgareddau amrywiol mae’r staff wedi ei roi at ei gilydd sydd wedi gwneud y profiad yn hynod o bleserus.”
Seren: “Rwyf wedi mwynhau’r profiad o weld yr ochr mwy ymarferol o’r byd gwleidyddol, a hefyd y cyfle i wneud ymweliadau i sefydliadau hynod o ddiddorol, er enghraifft fferm gynaliadwy. Mae’r profiad gwaith gwir wedi bod yn agoriad llygaid i’r pethau bach sy’n digwydd o fewn ein cymuned a fedr gwneud gwahaniaeth positif enfawr.
Yn ogystal rwyf wedi cael y cyfle i weld yr holl waith sy’n mynd ymlaen tu ôl i’r llenni, tu hwnt i’r hyn rydym yn gweld yn y cyfryngau, sydd yn fy marn i wedi bod yn werthfawr iawn!”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter