Ymgyrch Craig yr Hesg wedi'i chodi eto yn y Senedd

Rwyf wedi parhau i herio Llywodraeth Cymru i ddangos ffocws newydd i leihau ein dibyniaeth ar agregau cynradd ac i adolygu MTAN 1. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny'n cael eu cyflawni ym mhob cymuned, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan chwarela yng Nghraig yr Hesg.

Bu i’r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog dderbyn bod angen iddynt wneud mwy ar y mater hwn gyda'r Prif Weinidog yn cydnabod bod "rhaid cymryd effeithiau llwch, sŵn ac iechyd o ddifrif bob amser" a hefyd bod angen sicrhau cysondeb o ran gorfodi gan awdurdodau a'u bod yn cymryd camau gweithredu pan fydd amodau'n cael eu torri.

Fodd bynnag, o ran diwallu anghenion uniongyrchol Glyncoch a chymunedau cyfagos sy’n dioddef, methodd yr ymrwymiadau â chydnabod torri'r parth byffer 200m fel polisi cenedlaethol, gyda chyfeiriad arall at sefydlu grŵp cyswllt chwarel Craig-yr-Hesg.  Rwy'n rhannu barn llawer o drigolion na fydd hyn yn ddigon i fynd i'r afael â'r pryderon iechyd ac amgylcheddol uniongyrchol.

Unwaith eto, anogais aelodau Llywodraeth Cymru hefyd i wylio'r ffilm fer bwerus ac addysgiadol Hollow Mountain a gynhyrchwyd gan Mark Griffiths.

Gallwch weld fy nadleuon gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yma a fy nadl gyda#r Prif Weinidog yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Gruffudd
    published this page in Newyddion 2025-11-20 12:53:10 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd