Mae Deian Hughes yn fyfyriwr sydd newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunodd â'r tîm wythnos yma am brofiad gwaith yn gweithio yn fy swyddfa ranbarthol a fy swyddfa yn y Senedd. Ar ei ddiwrnod olaf ysgrifennodd y blog hwn am ei brofiad
Dros y tri diwrnod diwethaf o fy mhrofiad gwaith gyda Heledd, a'i thîm, rwyf wedi cael llawer o brofiadau newydd o fewn gwleidyddiaeth. Cefais y pleser o gwrdd â'i thîm yn eu swyddfa ranbarthol, ym Mhontypridd, ac yn eu swyddfa yn y Senedd, yn Nhŷ Hywel.
Rwyf newydd orffen fy Mlwyddyn Gyntaf yn astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd a wnes i gysylltu â Heledd am brofiad gwaith. Roeddwn i eisiau dysgu mwy am ei rôl fel AS a'r rhanbarth y mae hi’n cynrychioli. Cefais gyfle i ddysgu a thrafod gwahanol faterion sy'n wynebu'r rhanbarth megis costau byw a llifogydd.
Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy ac edrychaf ymlaen at fwy o brofiadau a chyfleoedd, gyda'r blaid, dwi’n annog unrhyw un i chwilio am brofiad gyda'r blaid neu eich Aelod o’r Senedd.
Wythnos hon roedd hi’n bleser croesawu Deian Hughes, myfyriwr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd ar brofiad gwaith gyda fy nhîm yn y rhanbarth a hefyd yn y Senedd.
Mae Deian wedi bod yn help mawr dros yr wythnos ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at weld beth mae'n ei wneud yn y dyfodol.
Diolch Deian.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter