Heledd Fychan AS: Yn Galw Am Gyhoeddi Adroddiadau Llifogydd 2020: Cymunedau Yn Dal i Aros Am Atebion

 

Mis nesaf, fe fydd hi’n ddwy flynedd ers i gymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ddioddef llifogydd dinistriol o ganlyniad i Storm Dennis.

Fodd bynnag, hyd yma dim ond 3 o'r 28 o adroddiadau ymchwiliad llifogydd mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi'u rhyddhau, gyda 19 ohonynt yn adroddiadau Adran 19, gan oedi ymhellach y gwaith atal llifogydd yn y dyfodol.

Cafodd tua 1498 o gartrefi a busnesau eu taro a dinistriwyd seilwaith hanfodol, ond dwy flynedd yn ddiweddarach mae cymunedau yn dal i aros am atebion.

 

Ers ei hethol ym mis Mai 2021, mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru Heledd Fychan AS wedi parhau â’r ymgyrch am gyfiawnder, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd.

 

Drwy’r cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol yn ogystal â mwy o fuddsoddiad cyfalaf i reoli a lliniaru llifogydd.

 

Ond all y gwaith hwn ddim dechreu heb i’r adroddiadau gael eu cyhoeddi.

 

Dywedodd Heledd Fychan AS:

 

“Bydd nodi bod dwy flynedd wedi mynd heibio yn anodd i nifer o bobl.

 

“Roedd cymunedau fel Pontypridd, Nantgarw, Pentre ac Ynysybwl ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gyda channoedd o gartrefi a busnesau wedi’u dinistrio. Er bod nifer wedi gallu dychwelyd i'w cartrefi, mae pob cymuned bellach yn byw mewn ofn, gan wirio lefelau afonydd a pharatoi ar gyfer y gwaethaf bob tro y bydd glaw trwm.

 

“Rwyf wedi galw ac ymgyrchu dro ar ôl tro am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd ac rwy’n falch o weld drwy’r cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru fod Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad annibynnol i’r llifogydd. Rydym yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth a dim ond oherwydd pwysau cymunedol a’n dylanwad yn y Senedd yr ydym yn gwneud cynnydd ar y mater hwn.

 

“Mae’r adolygiad yn gam pwysig tuag at gyfiawnder i ddioddefwyr llifogydd ar draws RhCT. ”

 

Ychwanegodd Ms Fychan ymhellach:

 

“Dwy flynedd yn ddiweddarach dydyn ni dal ddim yn gwybod beth aeth o’i le a pham, ac os bydd cartrefi a busnesau yn ddiogel pe bai storm debyg yn taro yn y dyfodol.

 

“Dyma pam mae’n rhaid i Gyngor RhCT gyhoeddi’r adroddiadau sy’n weddill i’r llifogydd fel mater o frys er mwyn i ni allu dechrau craffu arnynt. Rhaid dysgu gwersi, a rhoi mesurau atal llifogydd ar waith fel bod popeth posibl yn cael ei wneud i leihau effaith llifogydd yn y dyfodol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-01-24 15:46:53 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd