“Dyma dystiolaeth bellach fod ‘partneriaeth mewn pŵer’ Llafur yn niweidio Cymru” – Heledd Fychan AS
Yn ystod cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ddoe (Dydd Mercher 5ed Mehefin 2025), wnaeth llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Heledd Fychan AS, ddatgelu bydd awdurdodau lleol a sefydliadau sector gyhoeddus eraill yng Nghymru yn gorfod amsugno’r gweddill yn ddiffyg yn iawndal i gynnydd i Yswiriant Cenedlaethol.
Mewn ymateb i Ms Fychan, cadarnhaodd Mark Drakeford fod y defnydd o gronfeydd wrth gefn gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r diffyg o £72m mewn iawndal i sefydliadau sector cyhoeddus, a’r £185m gan Lywodraeth y DU, ond yn talu am 86% o'r gost. Bydd awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn gorfod ariannu 14% o'r diffyg eu hunain.
Yn 2025-26, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu diffyg gwerth £560m.
Dywedodd Heledd Fychan fod y “ni ellir y sefyllfa fod yn fwy difrifol” a bydd cymunedau a sefydliadau sector gyhoeddus yng Nghymru “dal i ddioddef o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan” serch addewid Lafur o newid.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar CLlLC, Cyng. Darren Price, ei fod yn “gwbl annheg” fod awdurdodau lleol yn “gorfod talu’r pris am benderfyniadau Llywodraeth y DU” gan rybuddio gall arwain at fwy o doriadau i wasanaethau neu gynnydd mewn treth gyngor.
Yn ymateb, dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Heledd Fychan AS:
"Os oeddech angen tystiolaeth bellach fod ‘partneriaeth mewn pŵer’ Llafur yn niweidio Cymru, dyma hi.
“Nid yn unig yw Llywodraeth Cymru yn gorfod defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu’r diffyg yn yr iawndal gan Lywodraeth y DU am ei chynnydd i Yswiriant Cenedlaethol ar gyflogwyr, ond mae awdurdodau lleol nawr yn gorfod amsugno’r gweddill eu hun – ar amser lle mae sefyllfa gyllidol eisoes mor ddifrifol.
“Ni ellir y sefyllfa fod yn fwy difrifol. Roedd addewid y byddai dwy lywodraeth Llafur yn gweithio gyda'i gilydd yn golygu newid go iawn i Gymru – ond mae'n amlwg bod ein cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus dal i ddioddef o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan.”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru CLlLC ac arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyng. Darren Price:
"Mae’r cadarnhad yma o’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid yn ergyd arall i lywodraeth leol. Mae awdurdodau lleol eisoes wedi’u hymestyn yn gyllidol – mae’r ffaith ein bod ni nawr yn gorfod talu’r pris am benderfyniadau Llywodraeth y DU yn gwbl annheg.
“Beth sydd yn gwbl annerbyniol yw nad ydynt yn gwybod os fyddwn yn derbyn iawndal i’r cynnydd mewn Yswiriant Cenedlaethol o flwyddyn nesaf neu a fyddwn yn gorfod amsugno’r gost eto – naill ai yn rhannol neu yn ei gyfanrwydd. Os nad yw hyn yn cael ei ddatrys, bydd dod o hyd i arian ychwanegol yn golygu mwy o doriadau i wasanaethau neu gynyddu treth gyngor ar bobl yn ein cymunedau.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter