Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Heledd Fychan MS, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ganiatáu i Gymru golli allan ar £70 miliwn o ganlyniad i'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae Heledd Fychan wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o wneud “dim ond gwylio wrth i Gymru ddioddef annhegwch” gan y bydd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yn dewis cymryd o'r cronfeydd wrth gefn Cymru yn hytrach na gofyn i Lafur y DU ariannu Cymru yn deg.
Fe feirniadodd Lafur am ddim gwneud unrhywbeth i fynd i'r afael â'r cyllid annheg hanesyddol i Gymru trwy'r Fformiwla Barnett gan ychwanegu y byddai dim ond Llywodraeth Plaid Cymru yn galw am weithredu gan San Steffan.
Dywedodd Plaid Cymru dros Gyllid, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg, Heledd Fychan AS:
“Mae’r ffaith ein bod ni ar ein colled o £70m yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu Taliadau Yswiriant Gwladol yn enghraifft arall o’r Blaid Lafur yn gwneud cam â Chymru.
“Ac ar y llaw arall, mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru fu'n addo’r byd i gyda dwy lywodraeth Llafur yn gwneud dim ond gwylio wrth i Gymru ddioddef annhegwch eto.
“Dylai’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford fod yn curo llwybr at ddrws y Canghellor, ond yn hytrach, mae’n defnyddio cronfeydd wrth gefn Cymru heb unrhyw awgrym o feirniadaeth tuag at ei blaid ei hun yn Llundain.
“Tra bod y Fformiwla Barnett annheg yn parhau mewn lle, fydd Cymru byth yn cael ei hariannu'n deg. Nid yw Llafur wedi gwneud unrhywbeth i fynd i’r afael â’r anghyfiawnder hanesyddol hwn, sy’n dystiolaeth bellach mai dim ond Llywodraeth Plaid Cymru fydd yn galw am weithredu gan San Steffan a sicrhau nad yw Prif Weinidog y DU – Llafur na Cheidwadol – yn anwybyddu llais Cymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter