Cyllideb Llafur yn wadu tegwch i Gymru– Plaid Cymru

Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn cyllideb Llafur ddydd Mawrth

Mae cyllideb Llafur yn gwadu tegwch i Gymru, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, er gwaethaf addewidion cyson o newid, fod Cymru yn parhau i gael tro gwael o dan Lafur – o wadu £4bn o gyllid HS2 gan San Steffan i’r ffaith bod Llafur yn gwrthod rhoi rheolaeth i Gymru dros ei hadnoddau naturiol ei hun.

Dywedodd Ms Fychan y gallai’r gyllideb hon fod wedi bod yn gyfle i unioni degawdau o annhegwch ac i ddangos “gwir uchelgais” dros Gymru ond yn hytrach yn parhau â phatrwm o danfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymreig fel y gwasanaeth iechyd a chynghorau lleol.

Cadarnhaodd na allai ei phlaid gefnogi cyllideb sy'n methu â chwrdd â maint yr heriau sy'n wynebu'r wlad.

Bydd pleidlais ar gyllideb derfynol Llafur heddiw (dydd Mawrth 4 Mawrth).

Ddydd Iau 20 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur ei chyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ôl dod i gytundeb gyda Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol

Wrth siarad cyn y bleidlais derfynol ar gyllideb Lafur, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid yn y Senedd Heledd Fychan AS,

“Cafodd Cymru addewidion mawr y byddai pethau yn newid o dan ddwy lywodraeth Lafur, ond y cyfan rydyn ni wedi’i gael yw mwy o’r un peth – annhegwch a diffyg uchelgais i’n cenedl.y

 “Rydym yn dal i gael ein gwadu o’r £4bn sy’n ddyledus i ni o HS2. Does dim golwg o ariannu deg i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus sydd mewn trafferthion. A dim ond yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Llafur yn erbyn i Gymru gael rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain – gan wrthod miliynau mewn elw posibl i’n gwlad.

 “Bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio gydag eraill lle gallwn ni er lles ein cenedl. Mae’r gyllideb hon, fodd bynnag, yn methu ag ateb yr heriau sy’n wynebu Cymru, o lywodraeth leol i’n gwasanaeth iechyd ac felly ni allwn ei chefnogi.

 “Mae angen meddwl ffres ar Gymru a llywodraeth na fydd yn gorffwys nes bod ein gwlad yn cael chwarae teg gan San Steffan. Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n brwydro dros degwch i Gymru – gydag atebion uchelgeisiol, hirdymor i wella ein gwasanaeth iechyd, tyfu ein heconomi, ac adeiladu dyfodol cryfach i’n cenedl.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-03-07 14:04:48 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd