Yn gynharach yr wythnos hon, ymwelais â Senedd yr Alban wrth i mi gynrychioli Senedd Cymru ar y British Irish Parliamentary Assembly.
Rwy’n Aelod hefyd o’r is-bwyllgor Amgylcheddol a Chymdeithasol ac rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i’r ddarpariaeth ar gyfer ieithoedd lleiafrifol brodorol. Cymerwyd tystiolaeth yng Nghymru yn 2019, a dyma oedd ein cyfle ni i glywed am y sefyllfa yn yr Alban mewn perthynas â phob iaith frodorol. Ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth oedd Shirley-Anne Somerville MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau, Llywodraeth yr Alban.
Roedd yn hynod ddiddorol clywed gymaint o gyfeiriadau at Gymru gan y rhai a roddodd dystiolaeth, gyda nifer yn adnabod Aled Roberts yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg ac yn amlwg wedi’i ysbrydoli ganddo.
Roeddem hefyd yn ffodus i gael taith o amgylch Senedd yr Alban, ac roeddwn wrth fy modd gweld y tebygrwydd o ran ethos a gweledigaeth yr adeilad sy’n debyg i’n Senedd ni o ran bod yn agored a thryloyw. Roeddwn wrth fy modd â’r ffaith bod creche yn yr adeilad, y gellir ei ddefnyddio gan Aelodau, staff ac aelodau’r cyhoedd, a hefyd nad oes sgriniau yn y siambr. Hoffwn weld y run peth yn Senedd Cymru.
Mae ein sesiwn nesaf i fod yng ngogledd Iwerddon, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed am ddatblygiadau yn Belfast yn arbennig. Mae cymaint y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd o ran cefnogi twf a defnydd ieithoedd brodorol.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter