Urdd Gobaith Cymru yn nodi 100fed penblwydd gydag ymgais Guinness World Record

Heddiw, fel y nodwyd gan nifer o fy nghyd Aelodau, roedd y genedl yn dathlu canlwyddiant yr Urdd. ac fel y clywsom drwy ganu gwych ein Llywydd, fel rhan o’r dathliadau, bu pobl o bob oed yn rhan o her lwyddianus yr Urdd i dorri dwy record y byd gan ganu Hei Mr Urdd. 

Imi, roedd yr her yn crynhoi yn berffaith cryfder mawr yr Urdd  - sef rol y sefydliad o ran hyrwyddo’r Gymraeg fel Iaith fyw, hwyliog sy’n perthyn i bawb. Rhybweth sydd y run mor berthnasol a phwysig heddiw ac yr oedd pan sefydlwyd y mudiad nol yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. 

Fel y nododd mewn rhifyn o ‘Cymru’r Plant’ yn 1922, ‘Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.’   

Nod y mudiad felly oedd amddiffyn y Gymraeg mewn byd lle roedd y Saesneg yn fwy fwy dominyddu bywydau plant Cymru,  

Dros y degawdau a ddilynodd, aeth y mudiad o nerth i nerth gan arwain at sefydlu Eisteddfod yr Urdd, a Gwersylloedd Llangrannog, Glan Llyn a bellach Caerdydd ynghyd a llu o weithgareddau gan gynnwys clybiau Chwaraeon, cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith dyngarol. 

Yn fwy diweddar, chwaraeoedd ran blaenllaw o ran cefnogi ffoaduriad o Afganhistan ynghyd a sicrhau mynediad i bawb i’r Urdd drwy gynnig aelodaeth am £1 i blant a phobl ifanc sy’n derbyn cinio Ysgol am ddim. 

Wrth i’r mudiad esblygu mae miliynau o blant a phobl ifanc Cymru wedi elwa o waith y mudiad. Ac oherwydd yr esblygu yna, mae’r mudiad y run mor bwysig a pherthnasol heddiw ac yr oedd yn 1922. 

Dymunwn pob llwyddiant i’r Mudiad ar gyfer y can mlynedd i ddod. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-02-08 00:55:56 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd