“Tacteg dargyfeirio sylw” gan y Toriaid yw gelyniaeth tuag at y BBC fydd yn peryglu dyfodol y cyfryngau Cymreig

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Ddiwylliant, Heledd Fychan AS, wedi beirniadu Llywodraeth y DU heddiw yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau bod cyhoeddiad yn yr arfaeth bod ffi trwydded y BBC ar fin cael ei rhewi am y ddwy flynedd nesaf.

Mae adroddiadau pellach yn awgrymu efallai mai hwn yw’r cyhoeddiad olaf o’i fath yn ymwneud â ffi trwydded y BBC ac y gallai’r model ariannu presennol gael ei ddileu’n gyfan gwbl ar ôl 2027.

Cyhuddodd Heledd Fychan MS y Prif Weinidog Boris Johnson o ddefnyddio “tacteg dargyfeiro sylw” o geisio plesio rhai carfannau yn ei blaid mewn wythnos drychinebus i’r Ceidwadwyr.

Ailadroddodd AS Plaid Cymru alwad ei phlaid am ddatganoli darlledu’n llawn i Gymru er mwyn diogelu dyfodol S4C gan fod ei chyllid ar fin dod yn gyfan gwbl o ffi’r drwydded.

Dywedodd Heledd Fychan MS:

“Bydd adroddiadau am rewi ffi trwydded y BBC am ddwy flynedd yn achosi ansicrwydd mawr i ddyfodol y cyfryngau Cymreig, yn enwedig ein sianel genedlaethol S4C sydd ar fin cael ei hariannu’n gyfan gwbl o ffi’r drwydded.

“Mae hyn yn teimlo’n debyg iawn i dactegau dargyfeirio sylw gan Brif Weinidog anobeithiol sy’n ceisio plesio rhai carfannau yn ei blaid yn dilyn wythnos drychinebus i’r Ceidwadwyr. 

“Mae Llywodraeth y DU yn dangos gelyniaeth gynyddol tuag at y BBC tra ar yr un pryd, mae allbwn newyddion lleol yn prinhau. Mae hyn yn gwneud Cymru yn neilltuol o agored i’r diffyg yn y cyfryngau sy'n niweidio ein democratiaeth.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am ddatganoli darlledu ar unwaith fel nad yw dyfodol S4C a BBC Cymru bellach yn nwylo llywodraeth Dorïaidd sydd yn gwbl ddiglem pan ddaw’n fater o warchod darpariaeth cyfryngau unigryw ein cenedl.

“Gyda sôn pellach am ffi’r drwydded yn cael ei dileu’n gyfan gwbl ar ôl 2027, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu nawr i sicrhau nad yw ein cyfryngau cenedlaethol yn cael eu dal mewn ras i’r gwaelod lle mae elw yn trechu darpariaeth o safon.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-01-18 23:06:33 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd