
Adrodd eich cwynion
Rwyf wedi bod yn gweithio gydag aelodau’r gymuned a’r cynghorydd lleol i gefnogi’r gwrthwynebiad i ddatblygiad chwarel Craig yr Hesg.
Mae'n hanfodol bod y gwir effaith ar drigolion yn cael ei gofnodi a'i fonitro'n gywir i sicrhau bod Heidelberg yn gweithredu o fewn eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y system gynllunio. I wneud hyn gofynnwn i chi adrodd cwynion bob tro. Manylion isod.
Rhowch wybod i mi a’ch cynrychiolwyr gwleidyddol eraill fel y gallwn ni eich cefnogi ar y cyd.
I roi gwybod am sŵn, arogl, llwch neu lygredd golau o Chwarel Craig yr Hesg, cysylltwch â Chyngor Rhondda Cynon Taf drwy:
Ffôn: 01443 425001
Tudalen We: https://porthigwsmeriaid.rctcbc.gov.uk/Llygredd
Ebost: [email protected]
Os ydych yn riportio digwyddiad penodol, rhowch gymaint o fanylion â phosibl – dyddiad, amser a hyd y digwyddiad, rhif plât trwydded unrhyw gerbyd perthnasol, ac unrhyw luniau/fideo perthnasol. Gwnewch hyn dim ond lle mae'n ddiogel i chi wneud hynny.
Efallai y byddwch hefyd am gysylltu â Chwarel Craig yr Hesg yn uniongyrchol. Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at y Rheolwr Cyffredinol.
Ebost: [email protected]
Tudalen We: www.communities.heidelbergmaterials.co.uk/en/sites/craig-yr-hesg-quarry-community-page

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter