Gwnaeth y Post Brenhinol elw o £758 miliwn y llynedd gan gynnig dim ond 2% o godiad cyflog i weithwyr, sy'n cyfateb i doriad cyflog mewn termau real. Byddai’r cynnig diwygiedig o hyd at 5.5% yn gweld buddion gweithwyr presennol yn cael eu tynnu, gan arwain hefyd at doriad cyflog mewn termau real yn ogystal ag amodau gwaeth i staff.
Ar 8 o Fedi, ymunais â gweithwyr y Post Brenhinol ar y llinell biced ym Mhontypridd i fynegi fy nghefnogaeth gyda’r holl aelodau sy’n streicio. Mae ein gweithwyr post anhygoel yn gweithio drwy'r flwyddyn ym mhob tywydd, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i'n cymunedau. Maen nhw'n haeddu cael eu trin â pharch a derbyn cyflog teg.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter