Heledd Fychan AS yn cynnal uwchgynhadledd i drafod ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Yn sgil yr argyfwng dwbl o ddyled yn codi a chynnydd yng nghostau byw yn bwrw cymunedau yng Nghymru yn galed y gaeaf hwn hoffai Heledd Fychan AS dros Ganol De Cymru eich gwahodd i uwchgynhadledd ranbarthol i rannu eich profiadau ar sut mae’r argyfwng yn effeithio'r rheiny rydych yn eu cefnogi a pha effaith maent yn cael ar allu eich sefydliad i ddarparu'r gefnogaeth hon.

Lleoliad: Neuadd Eglwydd San Ddyfrig, Treforest, Broadway, CF37 1DB

Amser: 1yp – 3yp         Dyddiad: 17eg o Chwefror

Archebwch eich lle: drwy anfon ebost at Elyn Stephens [email protected] neu Ken Moon [email protected] neu alwch 01443 853214

Yn sgil y sefyllfa Covid 19 mi fydd niferoedd cyfyngedig felly archebwch eich lle o flaen llaw.

Fe fydd yr uwchgynhadledd yn gyfle i siarad yn uniongyrchol ynglŷn ag effaith yr argyfyngau rydych yn gweld yn eich cymunedau, sut ydych yn ymateb, eich cynlluniau, rhowch wybod inni, hyd yn oed os nad ydych yn gallu mynychu. Fe fydd eich sylwadau, tystiolaeth ac eich pryderon yn cael eu bwydo yn ôl i Uwchgynhadledd Genedlaethol fydd yn cael ei chynnal yr un noswaith ac at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG.

Er bod nifer o’r liferi allweddol yn San Steffan gall Cymru wneud llawer i ymateb, megis capio’r prisoedd rhent tai cymdeithasol, nesa’r targedau i waredu tlodi tanwydd, a dechrau siarad ag awdurdodau lleol am ‘goelcerth ddyled’ i rheiny gydag ôl-ddyledion treth cyngor. Ond hoffem glywed gennych ynglŷn â sut allem weithio gyda’n gilydd i gyfyngu’r effaith o ‘drychineb costiau byw’ sy’n gyflym ddatblygu.

Dywed Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn ddiweddar: ‘’Nid ydym yn ddi-rym yn wyneb y storm’’. Fe fydd yr uwchgynhadledd yn bwydo mewn i Uwchgynhadledd Gymdeithasol Gymreig i gasglu syniadau ar gyfer ymateb draws - llywodraethol gallai fod yn llygedyn o obaith i nifer o bobl yng Nghymru ar gyfnod mor dywyll.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-02-08 13:25:19 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd