Sefyll yn Erbyn Militariaeth yng Nghymru

Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ymwybyddiaeth o Ddiarfogi ac Atal Arfogi Pellach, roeddwn yn falch o noddi digwyddiad yn y Senedd, a oedd yn amlygu militariaeth yng Nghymru, a gynhaliwyd gan PARC yn erbyn DARC. Mae gan Blaid Cymru hanes hir o wrthwynebu militariaeth ac eirioli dros heddwch. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ymgyrch trigolion Sir Benfro yn erbyn cynigion DARC. Cafwyd llawer o drafodaethau diddorol a chyfle gwerthfawr i Aelodau’r Senedd ddysgu mwy a deall cryfder y gwrthwynebiad a’r rhesymau pam y dylai hyn fod yn bryder i bawb yng Nghymru.

Mae dros 17,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb i wrthwynebu'r cynlluniau hyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy ac eisiau arwyddo'r ddeiseb cliciwch y ddolen isod:

https://www.change.org/p/stop-darc-radar-protect-pembrokeshire-s-unique-landscape


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-04-03 14:29:15 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd