Ar 14 Mai 2025, cynhaliwyd dadl yn y Senedd gan Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar yr argyfwng newyn a chaledi ariannol sy'n dwyshau ledled Cymru.
Mae ffigurau diweddar yn datgelu bod banciau bwyd ledled Cymru wedi dosbarthu 187,458 o barseli bwyd brys yn ystod y cyfnod 2023/24—cynnydd o 61% o'i gymharu â 2018/19. Adroddodd canolfannau unigol gynnydd sylweddol yn y galw. Er enghraifft, cofnododd Banc Bwyd Pontypridd gynnydd o 157% yn y parseli a ddosbarthwyd, tra bod Banc Bwyd Caerdydd wedi dosbarthu mwy na 20,000 o barseli. Mae'r ystadegau hyn yn adlewyrchu patrwm ehangach o bwysau ariannol eithafol wrth i lawer o aelwydydd frwydro i dalu am hanfodion bob dydd.
Tynnodd y ddadl sylw at y ffaith bod y system budd-daliadau bresennol yn methu cwrdd â costau byw go iawn. Mae taliadau Credyd Cynhwysol sydd ar gyfartaledd o ddim ond £92 yr wythnos i oedolyn sengl, sy'n llawer is na'r hyn sydd ei angen i dalu am fwyd, biliau cartref a theithio dyddiol, yn gwthio pobl ymhellach i galedi. Yn ogystal, mae toriadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd mewn perygl o daflu nifer hyd yn oed yn fwy o unigolion sydd yn agored i niwed i galedi. Ar hyn o bryd, mae pobl sy'n byw mewn teuluoedd anabl yng Nghymru eisoes yn wynebu risg uwch o newyn a chaledi—gyda 16% yn cael eu heffeithio o'i gymharu â'r 11% ymhlith teuluoedd nad ydynt yn anabl—gan adael tua 230,000 o bobl mewn teulu gydag oedolyn neu blentyn anabl yn agored i newyn a chaledi.
Yn ystod y ddadl, cafwyd galwad i gyflwyno Sicrhau’r Hanfodion o fewn Credyd Cynhwysol, sef galwad ymgyrch dan arweiniad Trussell a Sefydliad Joseph Rowntree, a fyddai'n sicrhau bod cyfradd sylfaenol Credyd Cynhwysol yn cael ei gosod yn ôl gwir gost bwyd, biliau, a theithio ac yn amddiffyn pobl rhag mynd heb yr hanfodion. Mae dadansoddiad Trussell yn awgrymu y gallai'r mesur hwn leihau'r risg o newyn a chaledi i 138,000 o bobl erbyn 2027 ac arbed £1.5 biliwn mewn costau gwasanaethau cyhoeddus i economi Cymru. Mae cynigion eraill yn cynnwys dileu'r terfyn dau blentyn ar fudd-daliadau, ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i bob teulu ar Gredyd Cynhwysol, a chyflwyno taliad plant uwch.
Gan wneud sylwadau ar ôl y ddadl, dywedodd Heledd Fychan AS: "Mae'r ddibyniaeth gynyddol ar fanciau bwyd yn profi bod ein system les yn methu. Mae angen newid brys arnom i sicrhau nad oes rhaid i neb yng Nghymru ddewis rhwng anghenion sylfaenol a goroesi. Nid yw tlodi yn anochel ac mae camau y gellir eu cymryd. Rwy'n galw ar Lywodraethau Llafur y DU a Chymru i gymryd camau beiddgar i ddiwygio’r system lles."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter