Diweddariad ar Ddyfodol Ferndale house a Cae Glas

Rwy’n falch o glywed y bydd Ferndale House yn parhau ar agor nes bydd cartref gofal newydd yn cael ei adeiladu. Mae hwn yn ganlyniad gwych i’n preswylwyr, staff ymroddedig, a’r teuluoedd sydd wedi brwydro mor galed i gadw’r gofal hwn y mae mawr ei angen yn y gymuned.

Fodd bynnag, rwy'n hynod siomedig o glywed y bydd y cyngor yn bwrw ymlaen â datgomisiynu Cae Glas. Hwn fydd yr ail gartref gofal cyngor yn Nhaf Elái i gau mewn llai na dwy flynedd, yn dilyn cau Garth Olwg. Gwyddom fod gofal preswyl yn hollbwysig, a bydd y newyddion hwn yn ddinistriol i’r preswylwyr, y staff, a’u teuluoedd. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi siarad ag aelodau o deulu preswylwyr, ac mae eu pryderon yn dorcalonnus.

Deallwn fod angen gwneud arbedion, ond nid toriadau pellach i’n gofal henoed yw’r ateb.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-01-22 14:42:05 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd