Diogelwch rhag peryglon carbon monocsid y Gaeaf hwn

Mae llawer o bobl ledled Canol De Cymru mewn perygl o beryglon carbon monocsid (CO), ac mae Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd, yn eu hannog i weithredu i ddeall y camau syml y gallant eu cymryd i ddiogelu’u hunain, a’u hanwyliaid, y gaeaf hwn.

 

Adwaenir carbon monocsid fel y ‘lladdwr tawel’ oherwydd na allwch ei weld, ei arogli na’i flasu, ac mae’n lladd oddeutu 40 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n gyfrifol am lawer mwy o bobl yn gorfod mynd i ysbyty.  Mae symptomau gwenwyno gan garbon monocsid yn cynnwys cur pen, blinder, cyfog, penysgafnder, cysgadrwydd, diffyg anadl, ac mewn achosion eithafol, mynd yn anymwybodol.  Gellir camgymryd ei symptomau am wenwyn bwyd a’r ffliw oherwydd eu cyffelybiaethau.  

 

Fel rhan o’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o CO, a’i beryglon, cytunodd Heledd Fychan , Aelod o’r Senedd, i gefnogi addewid Wales & West Utilities i helpu i ‘gadw’n cymunedau’n ddiogel rhag carbon monocsid’ yn nigwyddiad diweddar Senedd Y Farchnad.

 

Dywedodd Heledd Fychan , Aelod o’r Senedd:  

“Rwyf yn falch o ymuno ag ymgyrch Wales & West Utilities i ledaenu negeseuon hanfodol am ddiogelwch nwy i bobl Canon De Cymru

“Mae’n bwysig deall CO a’r arwyddion i gadw llygad yn agored amdanynt, gan hefyd ddilyn camau syml i ddiogelu rhag ei beryglon. 

“Gwn mor brysur yw’r adeg hon o’r flwyddyn ond rwyf yn annog pawb i gymryd ychydig o amser i wirio bod ganddynt larwm carbon monocsid clywadwy ac i wybod pa gamau syml y gallant eu cymryd, gan hefyd atgoffa teulu a chyfeillion i wneud yr un peth, fel y gall pawb gadw’n ddiogel o ran nwy y gaeaf hwn.”


Fel y gwasanaeth argyfwng nwy a phiblinelli nwy dros Gymru a de-orllewin Lloegr, mae Wales & West Utilities yn annog pobl i gadw’n ddiogel trwy gymryd camau syml, yn cynnwys:

 

  • Gosod larwm carbon monocsid clywadwy ym mhob ystafell lle mae offer nwy, a phrofi’r larwm yn rheolaidd.
  • Sicrhau y caiff eich holl offer nwy eu gwasanaethu’n rheolaidd a’u gwirio o ran diogelwch bob blwyddyn gan beiriannydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy. Os ydych yn rhentu’ch cartref, gofynnwch am gopi o Gofnod Diogelwch Nwy cyfredol eich landlord.
  • Adnabod arwyddion carbon monocsid: Cadwch lygad yn agored am eich offer nwy’n llosgi’n felyn neu’n oren llipa, nid yn lân ac yn las; goleuadau peilot ar foeleri’n chwythu yn aml; anwedd ychwanegol y tu mewn i’ch ffenestr; huddygl neu staenau melyn o amgylch offer.
  • Adnabod symptomau gwenwyno gan garbon monocsid: tebyg i’r ffliw neu i wenwyn bwyd heb dymheredd uchel.
  • Os yw’ch larwm yn canu, neu os amheuwch nad oes carbon monocsid, gweithredwch; ewch allan i’r awyr iach, gan adael drysau a ffenestri’n agored wrth ichi fynd. Wedyn, ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999.  Mewn argyfwng meddygol, peidiwch ag oedi, ffoniwch 999 yn syth.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth am garbon monocsid yn www.wwutilities.co.uk/services/safe-warm/carbon-monoxide/.

 

Daw Wales & West Utilities, y gwasanaeth argyfwng nwy a phiblinelli nwy, ag ynni i 7.5 miliwn o bobl ledled Cymru a de-orllewin Lloegr.  Os ydych yn arogli nwy, neu os ydych yn amau nad oes carbon monocsid yn bresennol, ffoniwch nhw ar 0800 111 999 yn syth, a daw eu peirianwyr draw i helpu unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-12-16 21:59:43 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd