Heledd Fychan AS yn galw am y Wahardd Arfau Niwclear

Pleidlais bwysig heno (9/3/22) o blaid gwelliant Plaid Cymru, sy’n galw ar bob gwladwriaeth i wahardd arfau niwclear. Dyla’i heddwch fod yn flaenoriaeth i bob gwladwriaeth.

Siaradodd Heledd Fychan AS o blaid y gwelliant oedd yn gofyn i bob gwladwriaeth lofnodi a chadarnhau cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Warhadd Arfau Niwclear.

Isod mae testun araith Heledd:

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin a hawl Wcráin i benderfynu drosti ei hun yn fygythiad i bob un ohonom. Mae'r ymosodiadau hyn yn tramgwyddo egwyddor ganolog cyfraith ryngwladol ac mae angen gweld honiad Putin ei fod yn dadfilwreiddio neu'n dadnatsieiddio Wcráin am yr hyn ydyw: dibwyllo ar raddfa fyd-eang ac erchyll.

Heb amheuaeth, mae'r gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel niwclear, rhywbeth sy'n frawychus ac yn erchyll. Yn wir, mae Putin wedi rhoi grymoedd niwclear Rwsia ar rybudd uwch ac wedi bygwth y gorllewin, gan ddweud yn ystod araith deledu ar 21 Chwefror, os yw gwledydd NATO yn ymyrryd yn Wcráin,

'Bydd Rwsia'n ymateb ar unwaith, a bydd y canlyniadau'n fwy nag a weloch chi erioed yn eich holl hanes.'

Er y gallwn obeithio nad yw hyn yn ddim mwy na brygowthan ar ran Putin yn hytrach nag arwydd o fwriad gwirioneddol i ddefnyddio arfau o'r fath, heb amheuaeth mae'r bygythiad yn real, gan wneud y defnydd o niwclear yn fwy tebygol bellach nag ar unrhyw adeg ers y rhyfel oer. Dyna pam ein bod yn cynnig heddiw fel gwelliant ein bod yn uno fel Senedd i atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol drwy alw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear, i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear. 

Dyma rai o'n horiau tywyllaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd, ac yn ddi-os, dylai gweld y lluniau erchyll o Wcráin ein sbarduno i wneud mwy i sicrhau heddwch ym mhob cwr o'r byd. Wrth inni leisio cefnogaeth i Wcráin a rhoi cymorth ymarferol i'r rhai sy'n mynd i fod yma yng Nghymru, gadewch inni beidio â cholli golwg ar bob gwrthdaro ac adnewyddu ein cefnogaeth i eiriau cyntaf siarter y Cenhedloedd Unedig, sy'n nodi mai'r prif gymhelliad dros greu'r Cenhedloedd Unedig oedd arbed y cenedlaethau i ddod rhag malltod rhyfel. Er ein bod yn falch iawn o'n hysbrydoliaeth i fod yn genedl noddfa yma yng Nghymru, dylem hefyd geisio dod yn genedl heddwch, fel y dylai pob gwlad yn y byd."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-03-20 23:57:06 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd