Trwy'r cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae cyfanswm o £214m yn cael ei fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
Bydd yr arian yma’n cael ei wario dros gyfnod o dair blynedd, gyda dros £16.2m yn cael ei ddyrannu i fynd i'r afael yn benodol â llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi ymgyrchu'n ddiflino am fwy o fuddsoddiad ar gyfer cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yn Ne Cymru, a dywedodd yn dilyn y cyhoeddiad:
"Mae trigolion a busnesau ledled De Cymru wedi dioddef llifogydd dinistriol nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r cyllid hanfodol hwn, a sicrhawyd drwy Gytundeb Cydweithredu Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn sicrhau bod cartrefi a busnesau ledled y rhanbarth yn cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol. "
Ychwanegodd Ms Fychan:
"Daw'r buddsoddiad hwn ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu i wella darpariaethau atal llifogydd yn fy rhanbarth.
"Mae llawer o waith dal i;w wneud, yn enwedig oherwydd nad ydym dal yn gwybod beth wnaeth digwydd ddwy flynedd yn ôl, ond byddaf yn parhau i weithio gyda cymunedau lleol i sicrhau'r atebion y maent yn eu haeddu."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter