Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo heddiw (dydd Gwener 30 Mai 205) i sicrhau parhad mynediad am ddim i deuluoedd incwm-isel i'r ŵyl ddiwylliannol flynyddol, Eisteddfod yr Urdd.
Mae nifer y cofrestriadau yn yr Eisteddfod eleni wedi torri record, sef 119,593 ac mae’r ŵyl hefyd wedi gweld cynnydd o 42% yn nifer y cystadleuwyr sy'n ddysgwyr Cymraeg.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg a diwylliant, Heledd Fychan AS, fod nifer y cystadleuwyr yn yr ŵyl yn dangos pwysigrwydd yr Urdd o ran cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg tu hwnt i'r dosbarth a magu hyder siaradwyr Cymraeg newydd.
Dywedodd AS Plaid Cymru fod ei phlaid wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi Urdd Gobaith Cymru yn eu gwaith, ac y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 yn parhau i wneud hynny.
Parhaodd Heledd Fychan i ddweud fod ymrwymiad Plaid Cymru i sicrhau mynediad am ddim i deuluoedd incwm-isel yn golygu fod pawb yn medru cael mynediad i'r iaith Gymraeg a diwylliant ein cenedl.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr iaith Gymraeg a diwylliant, Heledd Fychan AS:
“Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd Eisteddfod yr Urdd i'r iaith Gymraeg a’n diwylliant. Mae’r ŵyl yn caniatáu pobl ifanc ar draws Cymru i drochi eu hun yn yr iaith a datblygu eu sgiliau ieithyddol.
“Mae Eisteddfod yr Urdd wastad wedi, ac yn parhau i, chwarae rôl flaenllaw o ran cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, a’i defnydd dyddiol hefyd. Dyma pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau fod pawb yn medru mwynhau’r Eisteddfod, trwy sicrhau mynediad am ddim i deuluoedd incwm-isel.
“Mae Plaid Cymru yn parhau’n gadarn yn ein hymrwymiad i gefnogi a thyfu’r iaith Gymraeg, ac mae gwaith yr Urdd yn ganolog i'r weledigaeth honno. Mae mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd yn rhywbeth rydym wedi ymgyrchu amdano ers amser hir a bydda’i llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i gyllido hynny.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter