Plaid Cymru yn galw am ddadl frys yn y Senedd ar doriadau lles Llafur

Bydd toriadau yn cael effaith “anghymesur” ar Gymru – Heledd Fychan

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddadl frys yn y Senedd ar ôl i Ganghellor Llafur y DU gyhoeddi biliynau mewn toriadau lles.

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, fod yn rhaid i’r Prif Weinidog Eluned Morgan “nodi ar fyrder” sut y bydd yn amddiffyn Cymru rhag y toriadau a wnaed i les gan ei chydweithwyr Llafur.

Dywedodd Plaid Cymru y byddai Cymru’n cael ei heffeithio fwyfwy gan y toriadau, gan fod gan y wlad gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU a rhai o’r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch tymor hir.

Gan gyhuddo Llafur o dargedu’r “mwyaf bregus” yn hytrach na threthu’r “hynod gyfoethog”, dywedodd Ms Fychan na allai’r Prif Weinidog Llafur “aros yn dawel” a gofynnodd iddi amlinellu pa fesurau lliniaru yr oedd ei llywodraeth wedi’u rhoi ar waith ochr yn ochr ag unrhyw sylwadau brys a wnaed i “amddiffyn pobol Cymru”.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan AS,

“Does dim amheuaeth bod cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Lafur y DU yn nodi parhad o lymder.

“Yn hytrach na threthu’r cyfoethog iawn, mae Llafur wedi dewis targedu’r rhai mwyaf bregus, gan orfodi toriadau lles dyfnach fyth a fydd yn gyrru tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru—gan danseilio’r union dwf economaidd y maent yn honni ei fod yn ei gefnogi.

“O ystyried maint y toriadau hyn a’u heffaith ar ein cymunedau, mae dadl frys yn ystod amser y llywodraeth yr wythnos nesaf yn hanfodol. Rhaid i Brif Weinidog Llafur egluro ar fyrder sut y bydd yn amddiffyn Cymru rhag canlyniadau dinistriol penderfyniadau ei phlaid ei hun.

“Bydd Cymru’n cael ei heffeithio’n anghymesur, gyda chyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU a rhai o’r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor.

"Ni all y Prif Weinidog aros yn dawel tra bod ei phlaid yn San Steffan yn gorfodi’r toriadau creulon hyn. Os yw’r ‘bartneriaeth mewn grym’ bondigrybwyll rhwng y ddwy lywodraeth i olygu unrhyw beth, rhaid iddi ateb: Beth oedd hi’n ei wybod am y toriadau hyn cyn heddiw? Pa fesurau lliniaru, os o gwbl, y mae ei llywodraeth wedi’u rhoi ar waith? A pha sylwadau brys y mae wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU i amddiffyn pobl Cymru?"


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-03-28 10:26:34 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd