Ym mis Hydref, cynhaliodd Plaid Cymru ei chynhadledd flynyddol yn Llandudno. Un o brif themâu’r gynhadledd oedd sut y gallwn ymateb i'r argyfwng Costau Byw. Fe wnaeth Plaid Cymru lansio cynllun deg pwynt "Cynllun y bobl". Bydd y cynllun hwn yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ystod yr argyfwng.
Yn ystod y penwythnos cefais hefyd yr anrhydedd o gadeirio'r drafodaeth rhwng Michelle O'Neil, Dirprwy Lywydd Sinn Féin ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS. Bu’n drafodaeth ysbrydoledig lle cawsom y cyfle i ddysgu mwy ynglŷn a sut gallwn efnogi'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli'n. Gallwch wylio’r sesiwn yma: Michelle O'Neill, Adam Price, Heledd Fychan in conversation on the future of Wales and Ireland - YouTube
Dros benwythnos y gynhadledd, fe .es i gwrdd â chynrychiolwyr o sawl sefydliad sy'n gweithio i gefnogi etholwyr ar draws fy rhanbarth gan gynnwys Carers Wales, Alzheimer's Society Cymru, Tenovous, Commmunity Pharmacy Wales ac undeb athrawon NASUWT Cymru. Mae costau byw a mynediad i wasanaethau ymhlith prif bryderon y sefydliadau hyn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar ôl y gynhadledd a'u cefnogi i wella bywydau'r bobl rydym i gyd yn eu cynrychioli.
Rwy'n falch hefyd o gyhoeddi fy mod wedi cael fy ethol yn ystod Cynhadledd Plaid Cymru fel Cyfarwyddwr Polisi ac Addysg Wleidyddol newydd Plaid Cymru. Mae'n anrhydedd i gael fy ethol gan aelodau'r blaid ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw i ddatblygu rhaglen o bolisïau sy'n parhau i fod o fudd i bobl Cymru. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at greu rhaglen addysg wleidyddol gynhwysol sy'n ysbrydoli eraill i ymhél â gwleidyddiaeth.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter