Codi sbwriel – Heol Berw a Stryd Sion

Yn dilyn misoedd o law trwm a llifogydd ar ddechrau'r flwyddyn, roedd llawer o sbwriel wedi casglu ar hyd glannau’r afon Taf yn Heol Berw a Stryd Sion ym Mhontypridd. I helpu i lanhau, trefnais sesiwn casglu sbwriel gyda grŵp o wirfoddolwyr.

Gweithion ni’n galed gan gasglu 51 bag o sbwriel! Ymunodd 20 o wirfoddolwyr, gan wneud gwahaniaeth mawr i'r ardal. Doedd hi ddim yn bosibl i glirio poeth ond mae’r ardal yn edrych llawer iawn gwell ac mae’n fwy diogel i'r gymuned a bywyd gwyllt.

 

 

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i helpu—roedd yn wych gweld cymaint o waith tîm a gofal am ein hamgylchedd lleol. Edrychwn ymlaen at drefnu mwy o sesiynau glanhau yn y dyfodol!


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-05-07 11:44:32 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd