Llafur yn gwrthod galwadau Plaid Cymru i adfywio canol trefi Rhondda Cynon Taf

Ddoe (dydd Mercher 15/10/2025), mae Llafur wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisïau i gefnogi canol trefi.

Galwodd cynnig Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i:

  • sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch;
  • sefydlu sicrwydd cyllid tymor hir ar gyfer adfywio canol trefi; ac
  • cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau pwerau ‘Hawl i Brynu’ cymunedol.

 

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Blaid Cymru mewn ymateb i ddirywiad strydoedd mawr yng Nghymru ar ôl methiant Llafur i gefnogi busnesau'r stryd fawr.

 

Mae dadansoddiad diweddar gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod 1 o bob 6 siop yng Nghymru yn wag, sef yr ail ffigwr uchaf yn y DU.

 

Yn ystod y ddadl, pwysleisiodd Plaid Cymru bwysigrwydd canol trefi a strydoedd mawr i gymunedau lleol, wrth i gyfleusterau cymunedol gael eu gwerthu sy'n golygu fod strydoedd mawr Cymru yn llawn eiddo gwag.

 

Mae Plaid Cymru wedi galw am sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, i gymharu â busnesau mawr tu allan i drefi.

 

Fe wnaeth Llafur ddileu'r galwadau yn y cynnig, gan ddweud eu bod yn cefnogi strategaeth bresennol y Llywodraeth. 

 

Dywedodd AS Plaid Cymru, Heledd Fychan:

 

"Ar ôl 26 mlynedd o fethiant o dan Lafur, mae economi Cymru yn wan ac mae ein strydoedd mawr yn talu'r pris. Yng Nghymru, mae ein canol trefi a'n strydoedd mawr yn aml yn galon i’m cymunedau, ond dydyn nhw ddim yn derbyn digon o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru" 

"Mae cyfleusterau sy'n bwysig i'n cymunedau fel tafarndai, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn cael eu colli neu eu gadael yn wag, gan adael gwagle lle roedd unwaith bwrlwm. Yng ngweddill y DU, mae gan gymunedau hawl i brynu'r cyfleusterau hyn, ond yng Nghymru, nid oes gan ein cymunedau hawl o’r fath.

"Mae Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn a chefnogi ein canol trefi a grymuso ein cymunedau, ond yn anffodus, nid yw Llafur yn teimlo'r un peth, wedi iddynt bleidleisio yn erbyn ein cynnig.

"Mae Llafur wedi cael 26 mlynedd wrth y llyw, ac mae ein cymunedau yn dyheu am newid. Daw'r newid hwnnw ar ffurf Llywodraeth Plaid Cymru yn 2026, fydd yn cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru, gyda cynlluniau credadwyac uchelgeisiol i wella bywydau pobl ledled Cymru."

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-10-17 10:51:48 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd