Plaid Cymru yn annog y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio arian canlyniadol i adfer rhyddhad ardrethi busnes.
Dylai rhywfaint o'r cyllid canlyniadol sy'n dod i Gymru o gyllideb Llywodraeth y DU gael ei ddefnyddio i adfer rhyddhad ardrethi busnes, meddai Plaid Cymru.
Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75%, y lefel yr oeddent yn sefyll cyn i Lywodraeth Cymru eu torri i 40% ym mis Ebrill 2024.
Mae disgwyl i’r adferiad hwn gostio £50 miliwn yn ychwanegol, yn ôl Llywodraeth Cymru. Dywedodd Ms Fychan dylai cost y polisi hwn ddod o'r £1.7 biliwn mewn cyllid canlyniadol dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i Gyllideb Llywodraeth y DU.
Dywedodd Ms Fychan fod busnesau bach yng Nghymru yn wynebu ergyd ddwbl o ystyried y toriadau i ryddhad ardrethi busnes a wnaed yng Nghymru yn gynharach eleni, â'r cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf.
Cyhoeddodd y Canghellor yn ei Chyllideb yr wythnos diwethaf (30 Medi, 2024) fod cyfraniadau Yswiriant Gwladol a wnaed gan gyflogwyr am gynyddu o 13.8% i 15%, a chyhoeddwyd hefyd fod y trothwy mae cyflogwyr yn dechrau talu'r dreth ar gyflog pob gweithiwr yn gostwng o £9,100 y flwyddyn i £5,000.
Dywedodd Plaid Cymru y bydd y polisi yn cael effaith andwyol ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n cynrychioli 99% o fusnesau Cymru.
Mae'r OBR wedi cadarnhau y bydd safonau twf cyflog a safonau byw yn arafu o ganlyniad i'r mesurau hyn.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan AS:
“"Mae economi Cymru yn ei chael hi'n anodd, gydag anweithgarwch economaidd yma, yr ail uchaf o wledydd a rhanbarthau'r DU, a diweithdra ar ei uchaf yn y DU. Sefyllfa a fydd ond yn cael ei waethygu gan benderfyniad Llafur i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Mae'r codiadau hyn, ynghyd â'r toriadau i ryddhad ardrethi busnes yn gynharach eleni, yn arwain at ergyd ddwbl i fusnesau bach a'r stryd fawr yng Nghymru, ac felly mae'n cael effaith anghymesur ar fusnesau Cymru.
"Mae Llafur yn hoff o ddweud eu bod nhw o blaid busnesau, ac maen nhw'n honni bod y Gyllideb ddiweddaraf wedi rhoi mwy o arian iddyn nhw ei wario. Mae'n bryd iddynt brofi hyn, drwy gefnogi busnesau bach yng Nghymru drwy adfer y rhyddhad ardrethi busnes i 75%.
"Mae economi Cymru yn ddibynnol ar y busnesau bach sy'n cyflogi ein gweithwyr ac yn leinio ein strydoedd mawr. Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu siomi gan Lafur, yng Nghymru ac yn San Steffan. Bydd Plaid Cymru bob amser yn cefnogi busnesau Cymru ac yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.
"Bydd cryfhau ein busnesau bach, tyfu ein heconomi, a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl yn brif flaenoriaethau i lywodraeth Plaid Cymru; mewn cyferbyniad â'r Llywodraeth Lafur sydd wedi goruchwylio dirywiad ein safonau byw, y dirywiad mewn diwydiant, a dirywiad yn ein heconomi. Mae Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig gobaith a dechrau newydd i bobl ac economi Cymru ar ôl 25 mlynedd o fethiant economaidd Llafur".
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter