Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn cefnogi ymgyrch trigolion lleol yn erbyn ehangu Chwarel Craig Yr Hesg. Mae ceisiadau i ehangu wedi cael eu gwrthod ddwywaith gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf. Ar y 21 Mehefin 2022 fe fydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn i'r estyniad.
Bydd cyfle i drigolion lleol gyflwyno eu tystiolaeth ar brynhawn dydd Mawrth 21ain o Fehefin a bore dydd Mercher 22ain o Fehefin.
Gofynnir i drigolion sy'n dymuno siarad ar y diwrnodau hyn e-bostio / ysgrifennu at PCAC cyn y 10fed o Fehefin.
Ebost: [email protected]
PEDW postal address: Planning & Environment Decisions Wales
Welsh Government,
CP2, Cathays Park,
Cardiff,
CF10 3NQ
Am mwy o manylion ewch i: https://www.pontypriddtowncouncil.gov.uk/craig-yr-hesg-quarry-public-inquiry
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter