Mae Heledd Fychan AS wedi gwisgo i fynu mewn pinc yn y Senedd er mwyn cefnogi wear it pink, un o ddigwyddiadau codi arian mwyaf a disgleiriaf y DU
Ychwanegodd Heledd Fychan AS sblash o binc at ei dillad arferol i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron ac i annog etholwyr i gefnogi wear it pink dros Breast Cancer Now, ar ddydd Gwener 18 Hydref i godi arian tuag at ymchwil hanfodol o'r radd flaenaf i ganser y fron ac ar gyfer cefnogaeth sy'n newid bywyd.
Ymunodd aelodau eraill o'r Senedd â Heledd Fychan, i godi ymwybyddiaeth, ac i ddysgu mwy am ganser y fron yng Nghymru. Galwodd Heledd Fychan ar ei hetholwyr yng Nghanol De Cymru i ymuno â hi, yn ogystal â miloedd o bobl eraill ledled y DU, i gofrestru a chymryd rhan mewn wear it pink sy'n digwydd yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.
Gall unrhyw un gymryd rhan a gwisgo pinc, boed yn yr ysgol, yn y gwaith neu gartref. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo rhywbeth pinc, neu gynnal digwyddiad ar thema pinc, a chyfrannu tuag at Breast Cancer Now i helpu'r elusen i gyflawni ei gweledigaeth bod pawb sy'n cael diagnosis o ganser y fron erbyn 2050 yn byw ac yn cael eu cefnogi i fyw'n dda.
Dywedodd Heledd Fychan AS:
"Bob 10 munud, mae rhywun yn y DU yn clywed y geiriau "mae gennych chi ganser y fron". Dyma'r canser mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn mae tua 11,500 o fenywod ac 85 o ddynion yn colli eu bywydau i'r afiechyd. Dyna pam rydw i mor angerddol dros annog pawb yn Heledd Fychan i gymryd rhan yn niwrnod wear it pink ar ddydd Gwener 18 Hydref.
"Mae gwisgo pinc yn ffordd wych o ddod ynghyd â ffrindiau a theulu i gael hwyl wrth godi arian ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf a chefnogaeth sy'n newid bywyd. Fel y gwelwch o'm llun, y cyfan sydd ei angen yw ychwanegu sblash o binc i'ch gwisg arferol!
"Rwy'n falch o gael codi ymwybyddiaeth o effaith y clefyd yn lleol, ac i gefnogi ymchwil Breast Cancer Now. Mae canser y fron yn effeithio ar gymaint o bobl yng Nghymru, felly rwy'n gobeithio y bydd pawb yng Nghanol De Cymru yn cymryd rhan y mis yma i gefnogi'r achos pwysig iawn hwn."
Dywedodd Claire Rowney, prif weithredwr Breast Cancer Now:
“Rydyn ni mor gyffrous i weld ‘wear it pink’ yn dychwelyd i’r Senedd, ac yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Aelodau’r Senedd i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron a’r gwaith hanfodol mae gwisgo pinc yn helpu i’w ariannu.
“Wrth i Aelodau’r Senedd wisgo pinc, ein gobaith yw y byddan nhw hefyd yn annog eu hetholwyr i wisgo pinc yn eu cartrefi, eu hysgolion neu eu gweithleoedd ddydd Gwener 18 Hydref. Bydd hyn yn ein helpu ni i gynyddu’r ymwybyddiaeth am ganser y fron a pharhau i gyflwyno ymchwil a chymorth sy'n newid bywydau.
“Mae gwisgo pinc yn gyfle gwych i gymunedau ledled y DU ddod ynghyd, mwynhau a dangos eu cefnogaeth i'r achos pwysig iawn yma. Drwy wisgo rhywbeth pinc a rhoi beth bynnag allwch chi, byddwch chi’n helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth y mae mawr eu hangen. Gyda’n gilydd, gallwn gymryd cam hollbwysig arall tuag at gyrraedd ein nod, sef hyn: erbyn 2050, bydd pawb sy’n cael diagnosis o ganser y fron yn byw ac yn cael eu cefnogi i fyw’n dda.”
I gymryd rhan mewn wear it pink ym mis Hydref, ewch i wearitpink.org am ragor o fanylion ac am syniadau codi arian.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter