Cefais yr anrhydedd o ymweld â hosbis plant Tŷ Hafan ym Mhenarth. Nod Tŷ Hafan yw diwallu holl anghenion plant a phobl ifanc Cymru sy’n byw bywydau byr, am ddim.
Mae'r hosbis a'u staff yn achubiaeth i blant a'u teuluoedd yn fy rhanbarth a thu hwnt, felly roedd hi'n fraint treulio ychydig oriau yn ymweld a’r cyfleusterau a thrafod yr heriau y mae sefydliadau fel hyn yn wynebu oherwydd costau byw ac argyfwng ynni cynyddol.
Mae Tŷ Hafan wedi gweld eu costau ynni'n cynyddu i £500,000 y flwyddyn o gymharu â £100,000. Mae'r newid hwn yn bryderus iawn yn enwedig gan bydd y cynydd hefyd yn effeithio ar deuluoedd sydd â phlant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd sy'n dibynnu ar offer achub bywyd 24/7 yn y ty.
Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu'r berthynas rhwng fy swyddfa a Thŷ Hafan ac rwyf yn adleisio eu galwadau i gyflenwyr ynni yn y DU i gefnogi teuluoedd sy'n dibynnu ar offer achub bywyd ar frys.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter