Disgwylir i gymunedau Cymru wynebu sawl argyfwng y gaeaf hwn oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Oherwydd hyn, rwyf yn gwahodd sefydliadau sy’n gweithio ar draws y rhanbarth i rannu eu profiadau ynglŷn a sut mae'r argyfwng yn taro’r rheiny mae nhw’n eu cefnogi, a pha effaith y mae hyn yn ei gael ar allu eu sefydliadau i ddarparu cymorth. Dyma’r trydydd digwyddiad o’r fath yr wyf i a fy nhîm wedi trefnu eleni, ac mae croeso cynnes i fynychwyr sydd wedi bod o’r blaen yn ogystal a rhai newydd.
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i sefydliadau siarad yn uniongyrchol â’i gilydd am effaith yr argyfwng y maent yn ei weld yn ein cymunedau, sut y maent yn ymateb, eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf, a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt.
Er bod nifer o’r ysgogiadau allweddol yn parhau i fod o dan reolaeth San Steffan, mae llawer y gall Cymru ei wneud yn annibynnol i ymateb, megis capio codiadau rhent tai cymdeithasol, cyflwyno targedau ar gyfer dileu tlodi plant, a dechrau trafodaethau gyda awdurdodau lleol ar ddiddymu dyled i’r rheini ag ôl-ddyledion treth cyngor. Hoffwn glywed gan sefydliadau ynglŷn a sut y gallwn gydweithio i gyfyngu ar effaith y trychineb costau byw, a sut y gall sefydliadau cymunedol a chyrff sector cyhoeddus gydweithio’n lleol i helpu i fynd i’r afael â hyn.
Os hoffech fynychu y digwyddiad hwn gallwch archebu lle trwy’r ddolen isod:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad cysylltwch â mi drwy
Ffôn: 01443 853214
Ebost: [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter