Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dweud bod ei blaid yn "barod i wneud gwahaniaeth go iawn" yn 2022 wrth iddo gyflwyno ei dîm yn y Senedd ar ei newydd wedd.
Cadarnhaodd Mr Price mai Heledd Fychan AS fyddai llefarydd Plant a Phobl Ifanc, y Gymraeg, Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol, Sioned Williams AS Llefarydd Addysg Ôl-16, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb; a Mabon ap Gwynfor AS y Llefarydd dros Amaethyddiaeth, Materion Gwledig, Tai a Chynllunio.
Dywedodd Heledd Fychan AS: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i’r portffolio newydd hwn. Buddsoddi yn ein plant a’n pobl ifanc yw’r allwedd i greu Cymru fwy cyfartal, lle nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.
“Mae hyn yn golygu buddsoddi yn ein hysgolion a sicrhau cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, gan roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bawb.
“Mae’r Gymraeg yn eiddo i ni i gyd, p’un a ydym yn ei siarad ai pheidio, ac fel llefarydd y Gymraeg, byddaf yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar sut y byddant yn cyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price,
"O'r pandemig, yr argyfwng newid hinsawdd, twf mewn costau byw a Llywodraeth elyniaethus yn San Steffan, mae Cymru'n dechrau 2022 gyda sawl her o'n blaenau. Mae Plaid Cymru yn barod i ymateb i'r heriau hynny yn uniongyrchol ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru drwy'r Cytundeb Cydweithredu a fydd yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i rai o'n cartrefi tlotaf.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter