Ymysg yr holl weithgarewch sydd gan Heledd Fychan AS am Canal De Cymru ‘ar y gweill’ ar drothwy’r Nadolig, bydd hefyd yn cefnogi Diwrnod Siwmper Nadolig blynyddol Achub y Plant a gyhelir eleni ar ddydd Iau 12 Rhagfyr gan annog pawb hefyd i ymuno yn niwrnod mwyaf gwlanog a hwyliog yr elusen!
Ers ei lansio yn 2012, mae Diwrnod Siwmper Nadolig wedi codi dros £37 miliwn i helpu i drawsnewid bywydau plant. Mae’r arian a godir yn cefnogi plant yng Nghymru, y DU a ledled y byd i aros yn ddiogel, yn iach ac i ddysgu.
Mae Achub y Plant yn annog y genedl i ddathlu ei digwyddiad codi arian blynyddol mewn modd mor gynaliadwy â phosibl, trwy ailddefnyddio, ailgylchu a siopa siwmperi’n gydwybodol.
Mewn digwyddiad diweddar yn y Senedd, ymunodd Heledd Fychan AS gydag Aelodau eraill y Senedd, staff a gwirfoddolwyr Achub y Plant yn ogystal â theuluoedd a gefnogir gan yr elusen, i greu eu siwmperi Nadolig pwrpasol eu hunain.Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am yr ymgyrch a chlywed am y gwaith y mae Achub y Plant Cymru yn ei wneud yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant.
Meddai Heledd Fychan AS: “Gall pawb gymryd rhan yn Niwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant ar 12 Rhagfyr, boed hynny trwy ychwanegu addurniadau at hen siwmper, ail-wisgo un y llynedd y llynedd neu gyfnewid siwmperi gyda ffrindiau. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, gadewch i ni helpu i ddod â gwên i’r byd mewn siwmper glyd.”
Gall cyfrannu £2 neu beth bynnag y gall pobl ei fforddio helpu i wneud y byd yn lle gwell i blant:
- Gallai £2 brynu pecyn o hadau i deulu yn Kenya i dyfu eu bwyd eu hunain, ar ôl i sychder ddinistrio eu cnydau
- Gallai £8 brynu blanced i gadw plentyn yn yr Wcráin yn gynnes trwy'r gaeaf
- Gallai £10 brynu taleb archfarchnad i deulu yng Nghymru.
- Gallai £36 ddarparu dŵr am chwe wythnos i ddau blentyn yn yr ysgol yn Somalia er mwyn iddynt allu parhau â'u haddysg.
- Gallai £85 brynu dwy afr i deulu yn Somalia fel bod gan deulu ffynhonnell incwm ac i ddarparu llaeth iach i'w plant.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru i gymryd rhan - christmasjumperday.org .
Mae adnoddau Cymraeg ar gael i’w llawrlwytho o’r wefan
Am fwy o wybodaeth am waith Achub y Plant Cymru: Cymru | Save the Children UK
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter