Ar ddydd Sadwrn y 19eg o Hydref, ymunodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, â phrotestwyr sydd yn ymladd yn erbyn newidiadau i bolisi trafnidiaeth ysgolionCyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT). Mae'r newidiadau hyn mewn perygl o wthio mwy o deuluoedd i dlodi a chynyddu absenoldebau ysgol.
O dan y newidiadau arfaethedig, mae llawer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn newid y pellter cymhwysedd ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol o 2 filltir i 3 milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'r newid hwn wedi achosi pryder sylweddol i rieni.
Yn ystod cwestiwn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates AS wythnos diwethaf (ddydd Mercher 16eg Hydref) galwodd anogodd Heledd Fychan AS ar Lywodraeth Cymru i weithredu newidiadau angenrheidiol i'r Mesur Teithio. Mewn ymateb cynigiodd Ysgrifennydd y Cabinet osod amser i’r Llywodraeth gynnal dadl ar y mater.
Dywedodd Heledd Fychan AS: "Rwyf wedi bod yn bryderus iawn am yr effaith y bydd newidiadau i gludiant ysgol yn ei gael ar bresenoldeb, yn ogystal â gwthio mwy o deuluoedd i dlodi dim ond i gael eu plant i'r ysgol. Yn ogystal, nid oes llwybrau teithio diogel i lawer o'n hysgolion yn RhCT. Os oes gan rieni geir, bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn tagfeydd a llygredd aer ger ysgolion."
"Rwyf wedi codi effaith y diffyg cludiant ysgol yn barhaus ers cael fy ethol yn 2021, felly rwy'n falch y bydd cyfle o'r diwedd i drafod hyn yn Siambr y Senedd."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter