Heledd Fychan AS: Byw ger y afon Cynhadledd i Drafod Amddiffyn Cymunedau rhag Llifgoydd

Mae’r penwythnos hwn yn nodi pumed pen-blwydd y llifogydd dinistriol a achoswyd gan Storm Dennis ar draws de Cymru. Effeithiwyd ar lawer o’r cymunedau hyn unwaith eto gan lifogydd yn dilyn Storm Bert ym mis Tachwedd 2024, gan godi pryderon ymhlith trigolion a pherchnogion busnes am y risg gynyddol o lifogydd. Mae trawma o’r digwyddiadau hyn wedi gadael llawer yn methu â chysgu pan fydd hi’n bwrw glaw yn drwm ac wedi effeithio’n sylweddol ar eu hiechyd meddwl. Mae rhai trigolion yn ofni am eu bywydau hyd yn oed oherwydd y peryglon llifogydd parhaus. 

 

I goffau’r pen-blwydd ac ymateb i’r llifogydd diweddar, bydd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, yn cynnal digwyddiad ym Mhontypridd ddydd Sadwrn yma. Bydd y ffocws ar wella rheolaeth llifogydd a chydfyw â'n hafonydd. Bydd y digwyddiad yn ymdrin â gwersi a ddysgwyd o lifogydd yn y gorffennol, cynlluniau lliniaru llifogydd i’r dyfodol, ac ymatebion i newid hinsawdd. Bydd yn rhoi cyfle i berchnogion tai a pherchnogion busnes glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n gyfrifol am ymateb i lifogydd. 

 

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad mae Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac uwch gynrychiolwyr o Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd cyflwyniadau hefyd yn cael eu rhoi gan y Groes Goch Brydeinig a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gyda’r ddau gorff yn gweithio i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl.

 

Arweiniodd Ms Fychan, a fu yn Gynghorydd dros Ward Tref Pontypridd yn ystod Storm Dennis, alwadau am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd. Ers dod yn Aelod o’r Senedd, mae hi wedi parhau i gefnogi trigolion yr effeithiwyd arnynt ac wedi bod yn eirioli dros weithredu gan awdurdodau i leihau peryglon llifogydd. Mae ei hymdrechion yn cynnwys galwadau i sefydlu Fforwm Llifogydd i Gymru ac ailwampio’r gwaith o reoli ac ymchwilio i lifogydd yng Nghymru. 

 

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb, ond mae lleoedd yn gyfyngedig a rhaid archebu lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, ewch i BYW WRTH YR AFON o Dennis i Bert 2020 – 2025 - Heledd Fychan neu cysylltwch â Heledd Fychan a’i thîm drwy [email protected] neu drwy ffonio 01443 853214. 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-02-12 10:01:24 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd