Ddoe, roeddwn i’n un o filoedd a orymdeithiodd yng Nghaerdydd i gefnogi annibyniaeth i Gymru. Hon oedd yr orymdaith gyntaf i mi allu ymuno â hi ers cyn y pandemig, ac roedd yr awyrgylch yn gadarnhaol ac yn galonogol - gwrthgyferbyniad llwyr i wleidyddiaeth y DU ar hyn o bryd.
Roedd yn dilyn cyhoeddi adroddiad pwysig a gomisiynwyd gan Blaid Cymru gan yr Athro John Doyle, Athro Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Dinas Dulyn a Golygydd y cyfnodolyn Irish Studies in International Affairs sydd i’w weld yma.
Dengys y byddai bwlch cyllidol Cymru annibynnol yn ffracsiwn o’r ffigur a adroddwyd yn flaenorol – tua £2.6bn sy’n sylweddol is na’r ffigur a ddyfynnir yn aml o £13.5bn.
Roedd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn llygad ei le i nodi pa mor bwysig yw hyn,gan ei fod yn profi y byddai’r diffyg cyllidol y byddai Cymru annibynnol yn ei wynebu yn gwbl gyffredin i wledydd cymaradwy ac nid yw’n cyfateb mewn unrhyw ffordd i’r rhwystr mae eraill wedi ceisio’i gyflwyno fel dadl yn erbyn annibyniaeth.
Nid yw Cymru’n rhy fach nac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol. Yn fy marn i, ni allwn fforddio peidio â bod yn annibynnol. Mae Llywodraeth y DU wedi profi dro ar ôl tro na fydd buddianau Cymru byth yn flaenoriaeth iddynt. Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yma yng Nghymru – dyma’r unig ffordd i wireddu’r math o Gymru yr ydym ei heisiau a’i hangen, sy’n trin pawb yn gyfartal.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter