Penwythnos diwethaf ymunodd Heledd Fychan AS ag ymgyrchwyr yng Nghaerdydd i brotestio'r argyfwngcostau byw.
Wrth siarad yn y brotest a drefnwyd gan Gynulliad y Bobl, siaradodd Heledd Fychan AS am effaith yr argyfwngar bobl yng Nghymru:
"Mae'r cynnydd aruthrol ym mhris bwyd, ynni a thanwydd yn golygu bod unigolion a theuluoedd aoedd eisoes yn ei chael hi'n anodd angen dod o hyd i £1,200 ychwanegol y flwyddyn ar gyfer yr hanfodion hyn. A gyda incwm wedi gostwng mewn nifer o aelwydydd o ganlyniad i'r pandemig, maegormod o bobl yn gorfod dewis rhwng bwyta neu wresogi eu tai – dewis na ddylai neb orfod ei wneud.
"Gwyddom fod cynnydd yng nghostau byw yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd fwyaf agored iniwed mewn cymdeithas, y rhai hynny sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol megisrhentwyr, y rhai ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr, pobl anabl, plant, rhieni sengl, pobl hŷn, pobl sy'n gadael gofal, ac aelwydydd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Bydd costau uwch ond yn gwneudpethau'n waeth.
"Nid problem costau byw yn unig yw hwn – mae'n argyfwng cenedlaethol. Mae pobl yn marw, a byddantyn marw oherwydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU– nid ydym yn derbynbod tlodi'n anochel, ac nid ydym yn derbyn na ellir gwneud dim i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn."
Mae mynd i'r afael â'r mater hwn yn flaenoriaeth i Heledd sydd wedi bod yn gweithio gyda Plaid Cymru ynogystal â sefydliadau lleol i nodi ffyrdd ymarferol y gallwn gefnogi'r rhai y mae'r argyfwng yn effeithio mwyaf arnynt.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y mae ein swyddfa yn ei wneud i gefnogi pobl leol yma.
Yn y cyfamser, os ydych chi, neu unrhyw un rydych yn adnabod, mewn argyfwng neu angen cyngor ar unrhyw fater, mae croeso i chi gysylltu â'm swyddfa am gymorth drwy anfon e-bost [email protected]neu drwy ffonio 01443 853214.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter