Heledd Fychan AS yn cynnal ei 9fed digwyddiad Costau Byw yn Cynon Linc

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i ddigwyddiad rhwydwaith Costau Byw heddiw yn Cynon Linc. Buom yn siarad am dlodi mewn gwaith, yn ogystal â materion pwysig eraill fel tlodi tanwydd, dyled, tlodi plant a sut mae’r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn effeithio ar y trydydd sector ac elusennau.

Diolch arbennig i'n siaradwyr.

🪧AJ from RCT Trade Union Council
📚Mairead from the National Education Union
🗣️Kate from Citizens Advice Rhondda Cynon Taf
⚡️Maisey from National Energy Action

Dwi’n gwybod bod amseroedd yn mynd yn anoddach i lawer, gyda mwy o bobl yn dibynnu ar fanciau bwyd a bellach angen banciau tanwydd. Mae angen i bob lefel o lywodraeth weithredu i ddatrys yr argyfwng hwn. Mae gwasanaethau lleol yn cael eu torri, ac ar ôl iddynt fynd, anaml y byddant yn dod yn ôl. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r rhwydwaith hyd nes y byddwn yn gweld y newidiadau sydd eu hangen arnom.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-02-10 14:04:31 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd